Mae Michael Sheen, yr actor o Bort Talbot, wedi cyhoeddi cynlluniau i lansio cwmni theatr newydd yng Nghymru.

Daw hyn ar ôl i National Theatre Wales ddod i ben fis diwethaf ar ôl colli cefnogaeth ariannol o £1.6m gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Y seren Hollywood fydd yn ariannu’r cwmni newydd,  Welsh National Theatre, wrth chwilio am fuddsoddiad ariannol cyhoeddus a phreifat i’r fenter.

Mae disgwyl i’r cynhyrchiad cyntaf gael ei berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn yr hydref 2026 gyda Michael Sheen ei hun yn perfformio. Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf. Y bwriad yw cyflwyno un cynhyrchiad bob blwyddyn wedi hynny.

Dywedodd yr actor bod Welsh National Theatre yn awyddus i gyd-weithio gyda chwmnïau theatr eraill gan gynnwys Theatr Cymru (Theatr Genedlaethol Cymru gynt).

Michael Sheen yn actio Aneurin Bevan yn y cynhyrchiad Nye

Cafodd ei ysbrydoli i sefydlu’r cwmni newydd, meddai, yn dilyn llwyddiant y cynhyrchiad Nye, lle’r oedd yn chwarae rhan sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Aneurin Bevan.

Mae’r cwmni newydd wedi cael ei groesawu gan Steffan Donnelly, cyfarwyddwr artistig Theatr Cymru.

Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod yn unig ar ôl i adroddiad newydd gan Bwyllgor Diwylliant a Chwaraeon y Senedd ddangos bod Cymru ymhlith y gwledydd sy’n gwario lleiaf ar wasanaethau diwylliant a chwaraeon drwy Ewrop.