Mae Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant a Sgiliau Cymru, wedi croesawu mesurau newydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â gwefannau ailwerthu tocynnau.
Caiff tocynnau i gyngherddau a gemau chwaraeon eu hailwerthu’n aml am brisiau afresymol o uchel.
Mae sawl achos diweddar wedi ennyn dicter cyhoeddus.
Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Ionawr 10) eu bod nhw am gynnal ymchwiliad cyhoeddus fydd yn ceisio canfod datrysiad i’r broblem.
Datrysiadau
Arfer ailwerthwyr, neu ‘dowtiaid’ proffesiynol, ydy prynu miloedd o docynnau gan y cyflenwyr gwreiddiol a’u hailwerthu am brisiau anferthol pan nad oes unrhyw docynnau eraill yn weddill i’w prynu o’r ffynhonnell wreiddiol.
Mae’r cwmni tocynnau VirginMedia02 yn amcangyfrif bod y broses o ailwerthu’n ychwanegu £145m bob blwyddyn at gost mynychu cyngherddau cerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig.
Bydd ymchwiliad y Llywodraeth yn ceisio mynd i’r afael â’r arfer twyllodrus hwn, drwy gynnig ystod o ddatrysiadau posib.
Yn eu plith mae:
- gosod cap fyddai’n pennu’r gyfran uchaf mae modd ei ychwanegu at docynnau sy’n cael eu hailwerthu
- cyflwyno deddfwriaeth fyddai’n sicrhau gwell atebolrwydd gan wefannau ailwerthu
- cynyddu’r ddirwy sy’n ddyledus gan ailwerthwyr sy’n torri’r gyfraith.
Yn ogystal, bydd gweinidogion yn galw am dystiolaeth iddyn nhw fedru gweithredu ar arfer arall ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar, sy’n cael ei alw’n ‘brisio deinamig’.
Mae prisio deinamig yn amrywio prisiau tocynnau ar sail galw a chyflenwad.
Ond wedi i nifer gael eu siomi’r llynedd gan gynnydd annisgwyl ym mhrisiau tocynnau cyngherddau Oasis, fydd yn agor eu taith yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd fis Gorffennaf, fe fu pwysau ar y Llywodraeth i weithredu.
‘Tecach’
Mae Jack Sergeant wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan.
“Mae Cymru’n genedl â’u gwreiddiau ym myd cerddoriaeth, chwaraeon a’r celfyddydau,” meddai.
“Ers tro, mae towtiaid wedi medru mynnu prisiau hollol hurt, sy’n golygu nad yw pobol sy’n gweithio’n galed yn medru fforddio cael gweld y gerddoriaeth fyw, y gemau chwaraeon neu’r adloniant maen nhw’n eu mwynhau.
“Dw i’n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw, fydd yn gwneud prisiau tocynnau’n decach.”