Mae rhai o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyflwyno deiseb newydd yn gofyn am gynllun gan y brifysgol a Llywodraeth Cymru i sicrhau hyfywedd y campws yn Llanbed.
Wedi’i sefydlu yn 1822 dan yr enw Prifysgol Dewi Sant, mae’r campws yn un o sefydliadau addysg uwch hynaf Cymru.
Ond mae nifer y myfyrwyr sy’n mynychu’r safle wedi gostwng dros y degawdau diwethaf.
Fis Tachwedd, cyhoeddodd rheolwyr y brifysgol y byddai darpariaeth cyrsiau’r Dyniaethau yn symud oddi yno i gampws Caerfyrddin o fis Medi eleni.
Yn dilyn protestiadau fis Rhagfyr, mae rhai o gyn-fyfyrwyr y brifysgol wedi cychwyn deiseb yn galw ar y brifysgol a Llywodraeth Cymru i weithredu er mwyn sicrhau y bydd campws Llanbed yn dal i gael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr yn y dyfodol.
‘Effaith andwyol’
Mae’r ddeiseb yn datgan mai bwriad y brifysgol ydy “dod â’r holl addysgu israddedig ar ei champws yn Llanbedr Pont Steffan i ben”, ac y byddai hynny’n “dileu bron i 200 mlynedd o ran rôl Llanbedr Pont Steffan fel canolfan addysg uwch, ac yn effeithio’n andwyol ar y gymuned leol”.
“Fel cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr, a chefnogwyr, rydym yn galw ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i ddiogelu etifeddiaeth Llanbedr Pont Steffan, ac ymrwymo i ddyfodol cynaliadwy ar gyfer y campws hanesyddol hwn,” meddai’r ddeiseb.
Mae dros 3,600 o bobol bellach wedi llofnodi’r ddeiseb.
‘Brad’
Dywed Esther Weller, awdur y ddeiseb oedd wedi graddio yn 1999, mai tynnu sylw’r genedl gyfan at ffawd y campws ydy ei hamcan wrth ymbil ar Lywodraeth Cymru.
“Rydyn ni’n credu mai mater i Gymru gyfan ydy hyn, nid y brifysgol yn unig,” meddai.
“Brad fyddai cau’r campws, wedi 200 mlynedd o hanes.
“Mae treftadaeth a diwylliant Cymreig yn y fantol – mae’r un fath â Rhydychen neu Gaergrawnt yn dod ag addysg israddedigion i ben.
“Byddai gwrthod hawl cenedlaethau’r dyfodol i gael derbyn eu haddysg yn Llanbed yn beth torcalonnus.”
‘Trafodaethau ystyrlon’
Yn ogystal â’r ddeiseb, mae’r ymgyrchwyr yn bwriadu cynnal protest arall ar Ionawr 21 – y tro hwn y tu allan i risiau’r Senedd.
Dywed llefarydd ar ran y grŵp y bydd y brotest hon “yn gyfle i dynnu sylw aelodau’r Senedd at y bygythiad i sefydliad addysg uwch hynaf Cymru”.
“Y nod yw rhoi pwysau ar awdurdodau’r Brifysgol i ail-feddwl a dechrau trafodaethau ystyrlon gyda Chymdeithas Llambed (alumni) a rhandeiliaid ehangach – gan gynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned,” meddai.
“Mae 200 mlynedd o hanes addysg uwch ac economi’r ardal yn y fantol.”
Cyfeiria hefyd at ‘ganolfannau dysgu’ newydd y brifysgol yn Llundain a Birmingham, sydd bellach yn denu nifer helaeth o fyfyrwyr.
“Nid yw’n dderbyniol esgeuluso Llambed wrth ddefnyddio’r Hen Adeilad fel photo op wrth farchnata cyrsiau’r Brifysgol ar ddau gampws yn Lloegr!
“Cofiwch 1822!”
Ymateb
“Mae’r Brifysgol yn ymwybodol o’r ddeiseb,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol.
“Mae ein deialog gyda rhanddeiliaid allweddol am y cynnig yn parhau, ac mae’r rhain yn cynnwys sgyrsiau rheolaidd gyda’n staff a’n myfyrwyr yn ogystal â chynrychiolwyr o’n hundebau llafur cydnabyddedig, undeb myfyrwyr, Cymdeithas Llambed, Cyngor Tref Llanbed, Cyngor Sir Ceredigion, gwleidyddion lleol, a llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.
“Mae’r rhain yn gyfleoedd hanfodol i wrando ar adborth, deall pryderon ac ystyried materion yn weithredol.
“Mae dyfodol ystâd campws Llambed o bwysigrwydd mawr ac os byddwn yn bwrw ymlaen â’n cynigion byddai angen ymgynghori ymhellach ag ystod o randdeiliaid o’r gymuned leol yn ogystal â’r llywodraeth ac eraill sydd â diddordeb.
“Byddem yn gobeithio cael amrywiaeth o gynigion y gellir eu gwerthuso i nodi’r rhai a fyddai’n darparu dyfodol llwyddiannus ac economaidd gynaliadwy iddo.”