Ddydd Sul (Tachwedd 17) oedd canmlwyddiant geni un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru, Islwyn Ffowc Elis, ac mae cyn-fyfyriwr iddo’n dweud y byddai “siŵr o fod yn troi yn ei fedd” o glywed am yr ansicrwydd ynghylch dyfodol campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbed, lle bu’n ddarlithydd.
Yn 1999, enillodd ei waith mwyaf adnabyddus, Cysgod y Cryman, gystadleuaeth Llyfr y Ganrif.
Mae nifer o ysgolheigion yn cyfeirio at y llyfr hwnnw fel sail y nofel Gymraeg fodern.
Bu Islwyn Ffowc Elis hefyd yn weinidog yr efengyl, yn ymgeisydd gwleidyddol dros Blaid Cymru, ac yna, rhwng 1963 a 1990, yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Coleg y Drindod Caerfyrddin, ac yna yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant Llanbed.
Wrth siarad â golwg360, mae un o gyn-fyfyrwyr y brifysgol wedi bod yn hel atgofion am gyfnod y nofelydd toreithiog yn dysgu yn y brifysgol, yn wyneb amheuon am ddyfodol y campws yn Llanbed.
Cymuned “sbesial” cyn-fyfyrwyr Llanbed
Aeth Owen Phillips i gampws Llanbed am y tro cyntaf yn 1986, er mwyn astudio am radd yn y Gymraeg.
Roedd y sefydliad academaidd bryd hynny yn un o golegau hunan-lywodraethol Prifysgol Cymru.
“Dim ond ryw 750 o is-raddedigion oedd yn y coleg, a’r mwyafrif yn derbyn llety ar y campws, felly’n gloi iawn fe ddaeth pawb i nabod ei gilydd,” meddai wrth golwg360.
“Bob dwy flynedd, roedd yr Adran Gymraeg yn cael treulio wythnos yng nghanolfan breswyl Prifysgol Cymru, sef Neuadd Gregynog, mansiwn moethus du a gwyn.
“Yma, gaethon ni’r cyfle i ddod i nabod aelodau o staff academaidd yr Adran – athrawon fel David Thorne, Dafydd Ifans, a Meirion Pennar.
“Gyda’r nos, gaethon ni hwyl wrth redeg y bar yn y selar.
“Unwaith, pan fuon ni’n ymweld â Gregynog, gaethon ni’r fraint o gael gig preifat gan un o gyn-fyfyrwyr Llanbed, sef Steve Eaves a’i fand.
“Roedd y ffaith ei fod e wedi dod o dŷ di-Gymraeg yn Coventry, ac erbyn hynny yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl, yn dangos mor sbesial oedd Llanbed a’r aelodau oedd â chysylltiad â’r hen sefydliad.”
Cyfarfod ag Islwyn Ffowc Elis yn “anghredadwy”
“’Nôl yn Adeilad Canterbury [yn Llanbed], pencadlys adrannau’r Gymraeg a Saesneg, roedd pennaeth yr adran, yr Athro D. Simon Evans, yn ogystal ag Islwyn Ffowc Elis, ac athrawon eraill, fel Gwendraeth Morgan, Menna Elfyn a Christine Jones,” meddai Owen Phillips wedyn.
“Fel rhan o’r Lefel A Cymraeg bryd hynny, buodd rhaid i ni astudio Marwydos, detholiad o straeon byrion gan Islwyn Ffowc.
“Roedd hi’n deimlad anghredadwy y byddwn i’n cael gwrando ar rai o ddarlithoedd awdur mor enwog.
“Roedd Islwyn yn dysgu cwrs Ysgrifennu Creadigol / Y Stori Fer, a thiwtorial oedd ffurf y cwrs, felly bues i’n ddigon ffodus i gael treulio llawer o amser un-i-un gyda fe.
“Er fy mod i’n sgwennu straeon ag ansawdd wan heb lot o ddychymyg, roedd e wastad yn canmol y syniadau tu ôl i’m hymdrechion trist i!
“Roedd wastad pethau positif ganddo fe i’w dweud, ac mi oedd e’n hael iawn, iawn wrth fy meirniadu i.”
Dyn “caredig iawn”
“Ar ôl graddio fe ges i swydd oedd yn golygu gyrru ledled Cymru yn aml iawn,” meddai Owen Phillips wedyn.
“Ar y ffordd ’nôl o Fangor i Abertawe un prynhawn, wnes i benderfynu galw i mewn ar Islwyn Ffowc, heb drefnu o flaen llaw, fel roedd pawb yn ei wneud cyn cyfnod y ffôn symudol.
“Roedd Islwyn ac Eirlys, ei wraig, yn byw mewn bwthyn yn agos at dŷ crand Falcondale, yn Llambed.
“Fe gaethon ni sgwrs ddifyr, paned o de, a theisen roedd Eirlys wedi’i gwneud; dyna oedd y tro diwetha’ i fi ei weld e.
“Mi fues i’n ffodus iawn, iawn i gael Islwyn yn diwtor.
“Dw i’n ei gofio fe’n ddyn caredig iawn, yn dawel, ac yn gartrefol ei gymeriad; yn wir, mi oedd e’n fy atgoffa i o ’nhad-cu, fuodd farw ddeng mlynedd ynghynt.
“Byddai e siŵr o fod yn troi yn ei fedd pe bai e’n clywed am beth sy’n digwydd gyda’r campws yn Llanbed nawr.”