Dyma gyfres sy’n agor y drws ar rai o gaffis Cymru, lle byddwn ni’n siarad efo perchnogion y busnesau yma sydd, yn aml, yn ganolbwynt y gymuned. Y bwyd, y coffi, y cwsmeriaid, yr heriau a’r troeon trwstan – bydd digon ar y fwydlen i gnoi cil drosto. Yr wythnos hon, Elen ap Robert, cydberchennog Llofft yn y Felinheli, Gwynedd, sy’n cael sgwrs efo golwg360…
Fe agorodd llawr isaf Bar-Caffi-Cegin Llofft nôl ym mis Gorffennaf 2023 adeg Gŵyl y Felinheli – ac yna’r bwyty ar y llawr cyntaf ym mis Rhagfyr. Ar hyn o bryd rydan ni ar agor yn ystod y dydd yn unig ac yn cynnig brecinio, cinio gyda spesials sy’n newid yn wythnosol, cacennau cartref, coffi a the, gyda chwrw lleol a dewis o win a gwirodydd. Mae ’na bwyslais ar gynnig bwyd ffres, a chynnyrch lleol lle yn bosib.
Does gen i na’r gŵr, Dylan [Huws], sydd yn gydberchennog ar Llofft, brofiad yn rhedeg bwyty – roedd y ddau ohonon ni yn gwneud pethau gwahanol cyn mentro i faes lletygarwch – finnau ym maes y celfyddydau a digwyddiadau ac yntau ym maes teledu.
Mae ’na dipyn o fynd ar yr Wyau Benedict ac Wyau Twrcaidd, a chig oen Cymreig neu bysgod o’r Fenai wedi ei goginio yn araf dros dân byw. Mae’r gegin yn agored ac felly mae cwsmeriaid yn gallu gwylio’r bwyd yn cael ei goginio, ac mae gan y cogyddion hefyd olygfa o’r Fenai i Ynys Môn o’u man gwaith!
Mae ein cwsmeriaid o bob oed a chefndir – yn drigolion pentre’ Felinheli, yn deuluoedd lleol, yn bobl ifanc proffesiynol, yn bobl mewn oed ac, wrth gwrs, pobl ar wyliau yn yr ardal.
Mae pwyslais ar ddefnyddio cyflenwyr lleol, o gwmni Bwydydd Oren i fferm lysiau Tyddyn Teg Bethel, cigydd Wavells yn Llanrug, hufen ia Blasu Pwllheli, Halen Môn, a Coffi Eryri – ‘dan ni wedi gweithio gyda Wyn, perchennog Coffi Eryri i greu blend coffi arbennig i Llofft. Mae ’na dipyn o fynd ar Coffi Llofft gyda phobl yn prynu bagiau fel anrhegion Nadolig i ffrindiau amser yma o’r flwyddyn. Mae cwrw Wild Horse yn cael ei fragu yn Llandudno ac mae dewis o gwrw Llyn ar gael, jin Afallon sy’n cael ei gynhyrchu ar Ynys Môn, a Derw Coffi sy’n cael ei ddefnyddio i wneud ein Espresso Martinis.
Mae cynnal digwyddiadau cyson ac amrywiol yn ffordd dda o ddenu cynulleidfaoedd gwahanol i brofi Llofft. ‘Dan ni’n cynnal gigs acwstig misol lan llofft – gofod sy’n dal hyd at 80 o bobl. Mae Pys Melyn, Bitw, Buddug, Alys Williams ag Osian Williams, Achlysurol ymhlith yr artistiaid sydd wedi perfformio yma. Byddai gig Nadolig Mared gyda Malan wedi gwerthu deirgwaith drosodd, gymaint oedd y galw am docynnau. Mae tocynnau gig Nos Galan gydag Eryl Jones a’r Band yn hedfan allan. ‘Dan ni’n dathlu Santes Dwynwen ym mis Ionawr gyda gig gan Steve Eaves a Rhai Pobl – bydd yn noson a hanner.
Cymraeg yw iaith naturiol, bob dydd y lle gwaith – a ‘dan ni’n croesawu pawb i Llofft gan gyflwyno’r Gymraeg i bobl sydd yn dod ar draws yr iaith am y tro cyntaf. ‘Dan ni wedi cyflwyno “Gair y Dydd” sydd yn ffordd hwyliog o gyflwyno gair newydd – gyda’r staff ei hunain yn dewis geiriau sydd yn berthnasol i’r diwrnod. Mae’n creu sgwrs – ac yn destun sgwrs yn aml…
Mae “Give Welsh a Go” yn glwb siarad Cymraeg anffurfiol misol sydd wedi tyfu o chwech i 33 mewn nifer dros y misoedd diwethaf, ac mae cwis misol Syr Em yn tynnu torf dda.
Da ni’n ymfalchïo mewn bod yn lleoliad ar gyfer gweithgareddau cymunedol fel y Ras Hwyl ddiweddar gafodd ei chynnal gan Gyfeillion Ysgol y Felinheli – roedd hi fel ffair yn Llofft ddechrau Rhagfyr – wrth ein bod yn lleoliad cofrestru ar gyfer rhedwyr o bob oed ar y dydd.
Dyddiau hyn dyw e ddim yn ddigon i fod yn gaffi yn unig – rhaid cynnig ystod o bethau. Mae’n help wrth adeiladu dilyniant a theyrngarwch dw i’n meddwl.
Roedd cael y ffwrn pizza i’w le yn her, nôl ddechrau’r flwyddyn. Gorfu i ni gael help Paul o Iard Gychod Dinas yn Y Felinheli i’n helpu i godi’r ffwrn gyda’i graen, a aeth i’w le ymhen rhai oriau drwy’r ffenest ar y llawr cyntaf. Tipyn o chwysfa! Ac mae’n dyled yn fawr i Paul.
Mae ‘na heriau wythnosol – does dim un diwrnod fel y llall – a does dim dal beth sydd rownd y gornel, fel Storm Darragh bythefnos yn ôl pan fu’n rhaid i ni gau am y dydd gyda bwcins Dolig yn gorfod cael eu canslo. Diogelwch ein staff a’n cwsmeriaid oedd y flaenoriaeth, wrth gwrs.
Er gwaetha’r heriau, mae ‘na hwyl a llond bol o chwerthin yn amlach na pheidio. A dyna sy’n rhoi pleser – gweld llond caffi lawr llawr neu lond bwyty/gig lan llofft a phobl a gwen ar eu hwynebau ar ôl pryd blasus neu sgwrs dros beint/potel o win, yn gwylio’r haul yn machlud yn syth o’n blaenau ganol haf… A dw i’n gofyn i’n hun – oes lle gwell i fod, mewn difri’ calon?