Ar drothwy gwyliau’r Nadolig, dyma gyfle i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol. Yn hytrach na brecwast a chinio, beth am gyfuno’r ddau a chreu esgus am wledd (nid bod angen esgus arna’i am wledd!!). Dyma gyflwyno ‘Bre-cinio’ Nadolig!
Nid powlen o Frosties rydyn ni’n siarad amdani yn fan hyn, ond gwledd o flaen goleuadau cynnes y goeden Dolig sy’n gymysgedd hael o gig, pysgod a ffrwythau i chi ei fwynhau yn eich pyjamas. Yr hyn sy’n bwysig am ‘Fre-cinio Nadolig’ yw bod modd pigo ar y bwyd, ei rannu gyda theulu a ffrindiau, a mwynhau’r amrywiaeth sydd ar gael.
Ar nodyn mwy difrifol, mae gwastraff bwyd yn broblem enfawr dros gyfnod y Nadolig, a does wir ddim esgus am gael am y fath ddifaterwch. Mae gennym i gyd y gallu i fod yn egwyddorol a chreadigol gyda’r hyn sy’n weddill yn yr oergell – pam gwastraffu bwyd a chynnyrch ffres pan fedran ni wneud y gorau o’r hyn sydd gennym? Does dim angen rhuthro i’r siop dan banig bod angen gwario unwaith yn rhagor –beth am fentro creu eich ‘Bre-Cinio’ unigryw eich hun i’w rannu gyda’r teulu wrth i hwyl yr ŵyl brysuro cyn penllanw’r gwledda ar Ddydd Nadolig?
Beth fydda i ei angen?
- ‘Hog Roast Pulled Pork’
- Cig moch mewn blancedi
- Eog wedi’i fygu
- Nionyn gwyrdd
- 4 ŵy
- Menyn
- Clementines ffres deiliog
- Tacos
- Bagéts i’w pobi
- Caws hufennog
- Menyn
Coginio
Rhowch y porc carpiog (‘pulled pork’) yn y popty am 40 munud (nwy 6)
Rhowch y cig moch mewn blancedi – o’r oergell am 18 munud (nwy 6)
Bagéts bach i’w pobi am 10 munud (nwy 4) ar ôl eu trochi gydag ychydig o ddŵr
Wyau – Torrwch 4 ŵy i mewn i bowlen gan ychwanegu pupur a halen. Cymysgwch y dda.
Gwresogwch ychydig o fenyn mewn padell, a thywalltwch y gymysgedd i mewn gyda’r nionyn gwyrdd.
Ychwanegwch giwbiau o gaws hufennog wrth droi’r gymysgedd.
Cyflwynwch y wledd fel y mynnoch.