Mae’r actor a cherddor Bryn Fôn wedi gwrthod gwahoddiad gan yr Eisteddfod Genedlaethol i berfformio ar Lwyfan y Maes yn Wrecsam y flwyddyn nesaf.

Dywed mewn neges ar X (Twitter gynt) na allai “gael ei weld yn cefnogi a chymryd arian gan y Steddfod tra ar yr un pryd mod i yn cwestiynu ac yn protestio yn erbyn y ffordd y diddymwyd seremoni’r Fedal Ddrama” yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.

Wrth ymateb i’r penderfyniad, dywed yr Eisteddfod wrth golwg360 y “cafodd Bryn Fôn gynnig i chwarae ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Wrecsam y flwyddyn nesaf”.

“Gwrthododd y cynnig i berfformio ar sail ei egwyddorion, ac rydyn ni’n parchu ei benderfyniad,” meddai llefarydd.

Erbyn hyn, mae cannoedd o bobol wedi bod yn galw am eglurhad llawn gan yr Eisteddfod ynghylch eu penderfyniad i ddileu’r gystadleuaeth.

Mae’r Eisteddfod wedi cydnabod mewn llythyr nad yw eu datganiadau am y sefyllfa cyn hyn wedi “lleddfu gofidiau nifer o bobol am y penderfyniad”.

Cefndir

Wrth dorri’r stori fis Awst, roedd golwg360 yn deall fod seremoni’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd wedi cael ei hatal gan fod y darn buddugol wedi’i ysgrifennu gan berson gwyn o safbwynt person o gefndir ethnig lleiafrifol.

Mae’n debyg fod enillydd wedi dod i’r brig yn y gystadleuaeth, ond fod penderfyniad wedi’i wneud i atal y gystadleuaeth ar ôl cael gwybod pwy oedd y dramodydd buddugol.

Yn sgil penderfyniad yr Eisteddfod i beidio gwneud sylwadau pellach, roedd nifer o ddamcaniaethau wedi cael eu rhannu, gan gynnwys bod deallusrwydd artiffisial (AI) wedi cael ei ddefnyddio.

Fe wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi ddiwrnod cyn y byddai’r seremoni’n cael ei chynnal na fyddai’n cael ei chynnal wedi’r cyfan, ac na fyddai’r beirniaid – Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch – yn gwneud sylw pellach.

Daeth y penderfyniad “bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni” yn dilyn trafodaeth ar ôl beirniadu’r gystadleuaeth.

Chafodd y feirniadaeth mo’i chyhoeddi yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau chwaith, ond roedden nhw wedi cysylltu â’r cystadleuwyr i gynnig sylwadau.

‘Gwrando yn ofalus’

Yn y llythyr gan yr Eisteddfod, mae Ashok Ahir, Llywydd y Llys, wedi “diolch i’r rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr agored at Gyngor a Bwrdd yr Eisteddfod”.

“Rydym yn gwerthfawrogi fod y penderfyniad i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama’n parhau yn bwnc llosg i nifer,” meddai.

“Rydym wedi gwrando yn ofalus ar y feirniadaeth sydd wedi ei gylchredeg yn barod, ac yn derbyn na fu i’n datganiadau cynt leddfu gofidiau nifer o bobol am y penderfyniad.

“Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod, a’r Bwrdd yn unig, sydd yn gyfrifol am y penderfyniad hwn.

“Ni ddylid felly beirniadu unrhyw wirfoddolwyr sy’n ymwneud â’r Eisteddfod nac ychwaith y staff.”