Mae ysgol yn y canolbarth wedi diolch i Hybu Cig Cymru ar ôl eu hymweliad “gwerthfawr” i gynnal gweithdai bwyd a ffermio.
Cafodd Ysgol y Carno gyfle i gymryd rhan yn y gweithdai wedi iddyn nhw ennill cystadleuaeth genedlaethol.
Wrth edrych yn ôl ar yr ymweliad, mae Bethan Williams, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Carno, yn diolch i Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol Defnyddwyr Hybu Cig Cymru, a thîm Hybu Cig Cymru am y cyfle “bythgofiadwy” i’r disgyblion.
“Roedden nhw wedi mwynhau yn ofnadwy,” meddai wrth golwg360.
Dathlu bwyd a ffermio
Roedd Hybu Cig Cymru, sy’n hyrwyddo cig coch, wedi cynnal cystadleuaeth i athrawon sy’n tanysgrifio i’w cylchlythyr Gwersyll o’r Gegin er mwyn ennill gweithdy bwyd a ffermio yn yr ysgol.
Fe fu’n gyfle i’r ysgol gyfan ddeall mwy am yr hyn sy’n digwydd i anifeiliaid yn eu hardal wledig nhw yng Ngharno.
“Ein thema dosbarth ni oedd amaethyddiaeth, ac o hynny roedd cael gweithdy fel hyn yn ehangu eu profiadau nhw a dysgu pwysigrwydd cig Cymru.
“Roedd cael gweld beth sy’n digwydd i’w defaid a’u gwartheg nhw go iawn yn dipyn o sioc i rai ohonyn nhw.
“Mi oedd Elwen a’r tîm yn gwneud arddangosfa coginio, ac roedd hwnnw’n rywbeth newydd iawn i’r plant.
“Mi oedden nhw’n cael bod yn rhan ohono, yn torri’r llysiau ac yn rowlio’r peli cig, ac mi oedden nhw wrth eu boddau yn dysgu fel yna.”
Ychwanega y byddai’n argymell gweithdy o’r fath yn fawr i ysgolion eraill, a’i fod wedi bod yn brofiad “bythgofiadwy” i’r plant.
“Rydyn ni eisiau diolch i Hybu Cig Cymru am y cyfle,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod nad ydyn nhw’n mynd o gwmpas llawer o ysgolion, felly rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn ac mi oedd o’n brofiad gwerthfawr i ni gyd.”
Cyflwyno cigoedd Cymru
Yn ystod y gweithdy, fe wnaeth Elwen Roberts gyflwyniad ar gynhyrchu Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru PGI, a Phorc o Gymru, yn ogystal â rhoi sylw i faeth a deiet iach.
Wrth longyfarch Ysgol Carno, dywed Elwen Roberts ei bod yn “bleser ymweld â’r ysgol”.
“Mae gweithio gydag ysgolion, athrawon a disgyblion yn rhan allweddol o gylch gwaith Hybu Cig Cymru i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gwybod sut mae cig coch Cymru’n cael ei gynhyrchu, sut mae ei goginio a sut mae’n chwarae rhan bwysig mewn deiet a ffyrdd iach o fyw,” meddai.