Mae cadw traddodiadau Cymreig y Nadolig, fel y Fari Lwyd a Chanu Plygain, yn hollbwysig er mwyn diogelu hunaniaeth ddiwylliannol y genedl a sicrhau bod yr arferion hyn yn parhau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, medd Hanna Bowens Morgan…
Mae traddodiadau Nadoligaidd Cymreig fel y Fari Lwyd a chanu plygain wedi’u gwreiddio’n ddwfn yng ngwead diwylliannol Cymru. Mae’r arferion hyn yn adlewyrchu hanes cyfoethog y genedl, llên gwerin ac ymdeimlad bywiog o gymuned, gan gynnig cipolwg ar y traddodiadau sydd wedi llunio hunaniaeth Gymreig dros y canrifoedd.
Yn y byd sydd ohoni, lle mae treftadaeth ddiwylliannol mewn perygyl o gael ei hanghofio, mae’r traddodiadau hyn yn parhau i fod yn berthnasol – nid yn unig fel modd o gadw hunaniaeth unigryw Cymru, ond hefyd fel ffordd o gyfoethogi dathliadau’r ŵyl fodern.
Beth yw’r Fari Lwyd?
Mae’r Fari Lwyd yn draddodiad canol gaeaf Cymreig sy’n ganrifoedd oed, sy’n asio elfennau o lên gwerin a dathlu cymunedau. Mae ffigwr trawiadol y Fari Lwyd ei hun, sef penglog ceffyl, wedi’i osod ar bolyn ac wedi’i orchuddio â lliain gwyn, ac yn aml wedi’i addurno â rhubanau a chlychau. Yn draddodiadol, mae criw o gantorion a dathlwyr yn cyfeilio i’r Fari Lwyd wrth iddyn nhw deithio o dŷ i dŷ, gan gymryd rhan mewn ymryson rhigymau chwareus a barddonol, gaiff ei alw’n ‘pwnco’, gyda’r deiliaid. Mae’r ddefod galw ac ateb hon, sydd wedi’i gwreiddio mewn arferion cyn-Gristnogol a Christnogol, yn symbol o fuddugoliaeth bywyd dros dywyllwch yn ystod nosweithiau hir y gaeaf.
Mae’r Fari Lwyd yn dod â cherddoriaeth, direidi ac ymdeimlad o undod, gan ei wneud yn ddathliad unigryw o ddiwylliant Cymru.
Er mwyn sicrhau bod y traddodiad hwn yn ffynnu yn y Gymru fodern, mae’n hanfodol ei addasu mewn ffyrdd sy’n atseinio â chymunedau amrywiol heddiw. Gall ymgorffori rhigymau dwyieithog neu ‘Wenglish’ wneud y profiad yn fwy cynhwysol, gan alluogi cyfranogwyr Cymraeg a Saesneg i ymgysylltu’n llawn â’r ddefod galw ac ateb. Yn ogystal, mae modd cynnal gweithgareddau crefft i uno cymunedau i greu addurniadau i roi ar y Fari Lwyd.
Byddai rhoi mwy o sylw’r cyfryngau iddo yn cynyddu ymwybyddiaeth ac yn ei gyflwyno i gynulleidfaoedd gwahanol. Enghraifft ddifyr o hyn yw’r gyfres ddiweddaraf o RuPaul’s Drag Race. Wrth ymdrin â’r thema gyntaf, fe wnaeth y drag queen ‘Marmalade’ o Gaerdydd greu gwisg drawiadol wedi’i seilio ar y Fari Lwyd ar gyfer y thema ‘tref enedigol’. Fe wnaethon nhw hefyd esbonio cyd-destun y traddodiad i addysgu gwylwyr y rhaglen.
Canu Plygain
Mae Canu Plygain yn ffurf draddodiadol Gymreig ar ganu carolau’n ddi-gyfeiliant. Caiff y Plygain ei berfformio’n hanesyddol mewn capeli neu eglwysi yn ystod oriau mân Dydd Nadolig. Caiff ei ganu fel arfer gan unigolion neu grwpiau bach, ac mae’n cynnwys harmonïau cywrain a repertoire o garolau hardd sy’n aml yn hynafol. Mae’r arfer wedi’i wreiddio’n ddwfn yn etifeddiaeth grefyddol a cherddorol Cymru, gan gynnig ffordd dawel ac ysbrydol o ddathlu’r Nadolig, a dod â chymunedau ynghyd mewn cân.
I sicrhau bod Canu Plygain yn parhau i fod yn rhan fywiog o ddathliadau’r Nadolig yng Nghymru, gallai ymdrechion ganolbwyntio ar ei wneud yn fwy hygyrch ac apelgar i gymunedau cyfoes Cymru. Gallai symud gwasanaethau Plygain o’u hamseroedd traddodiadol yn gynnar yn y bore i oriau mwy cyfleus gyda’r nos annog mwy o gyfranogiad, yn enwedig ymhlith y rhai sy’n anghyfarwydd â’r traddodiad.
Byddai cyfuno carolau traddodiadol â chaneuon Nadoligaidd modern yn cynnig cyfle unigryw i ddenu cenedlaethau iau i’r traddodiadau hyn. Drwy gydweithio ag artistiaid a cherddorion o Gymru, gellid cynhyrchu perfformiadau sy’n ailfywiogi a chreu cysylltiad newydd rhwng y traddodiad a’r gynulleidfa gyfoes. Nid yn unig y byddai hyn yn dathlu’r hanes cerddorol, ond byddai hefyd yn sicrhau bod traddodiadau’r Nadolig yng Nghymru’n parhau’n berthnasol ac yn apelio i bob oed.
Pam parhau â’n traddodiadau?
Fel Cymru, mae gan bob gwlad ei thraddodiadau unigryw ei hun, sy’n dod â chymunedau at ei gilydd i ddathlu.
Mae cadw traddodiadau Cymreig y Nadolig, fel y Fari Lwyd a Chanu Plygain, yn hollbwysig er mwyn diogelu hunaniaeth ddiwylliannol y genedl a sicrhau bod yr arferion hyn yn parhau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac nad ydyn nhw’n cael eu colli. Nid yn unig mae adfywio’r arferion hyn yn atgyferthu balchder diwylliannol o fewn Cymru, ond mae hefyd yn arddangos traddodiadau unigryw ac ystyrlon y wlad i’r byd.
Y tu hwnt i dreftadaeth, mae’r arferion hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn adeiladu cymunedau, gan feithrin cysylltiadau rhwng cenedlaethau wrth i gyfranogwyr hŷn drosglwyddo caneuon a defodau i’r cenedlaethau iau. Boed mewn pentrefi gwledig neu ganolfannau trefol, mae’r traddodiadau hyn yn cryfhau’r ymdeimlad o berthyn ac undod, gan ein hatgoffa o’r cysylltiadau dwfn sy’n clymu cymunedau ynghyd.
Nid yw eu hadfywiad yn ymwneud â’r gorffennol yn unig; mae’n ymwneud â chreu dyfodol diwylliannol y gall pawb gymryd rhan ynddo a’i ddathlu.
Mae’r Fari Lwyd a Chanu Plygain yn symbolau parhaol o wytnwch, creadigrwydd a chyfoeth diwylliannol Cymru. Mae adfywio’r traddodiadau hyn mewn ffyrdd meddylgar ac arloesol yn sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol mewn byd sy’n newid yn gyflym. Drwy gofleidio’r arferion hyn, gall Cymru gynnig profiad Nadoligaidd sy’n unigryw iddi hi ei hun, ac sy’n hynod ystyrlon i’w phobol ac i’w hymwelwyr fel ei gilydd.