Mae cau tafarndai cymunedol yn bygwth dyfodol yr iaith Gymraeg, yn ôl rhai sydd wedi bod yn siarad â golwg360.
Yn dilyn cau tafarn New Inn Ceredigion, mae Rhidian Rees, un o’r trigolion lleol, yn dweud ei bod yn anoddach i’r Cymry Cymraeg gymdeithasu yn eu mamiaith.
Yn 2023, roedd Cymru wedi colli 2.1% o’i thafarndai, sy’n fwy na dwywaith y gostyngiad o 0.9% yn nifer y tafarndai gafodd eu colli yn Lloegr.
Mae disgwyl i’r niferoedd hyn godi eto, gyda 50 tafarn y mis yn cau yng Nghymru a Lloegr eleni.
‘Colled fawr’
Ar ôl ailagor eto am ddwy flynedd, roedd yn rhaid i dafarn New Inn Ceredigion ym Mrynhoffnant gau ei drysau unwaith eto.
Mi gaeodd o ganlyniad i’r cynnydd mewn costau cyfleusterau fynd yn ormod fel nad oedden nhw’n broffidiol i’r perchnogion ragor.
Wedi’i lleoli mewn ardal wledig yn y gorllewin, dywed Rhidian Rees, dyn 41 oed o’r ardal, fod y New Inn yn bwysig iawn iddo fe a phobol leol eraill, gan ei bod yn uno cymuned Gymraeg yr ardal.
“Roedd y dafarn leol yn le oeddwn i’n mynd i gael clonc a chwrdd â phobol leol,” meddai wrth golwg360.
“Gaethon ni lot o sbort yna gyda nosweithiau canu a bingo.”
Nid yn unig roedd y dafarn yn uno cymunedau Cymraeg, ond fe wnaeth hefyd ei thyfu.
“Roedd lot o Saeson yn pigo’r Gymraeg lan wrth glywed ni’r locals yn ei siarad,” meddai wedyn.
“Roedd hon yn golled fawr, dim chwarae!”
Teimla ei bod hi’n anoddach a bod llai o gyfleoedd bellach i bobol ddod ynghyd i gymdeithasu yn Gymraeg mewn ardaloedd gwledig.
Diwydiant lletygarwch mewn “sefyllfa enbyd”
Mae Nick Laing yn berchennog tafarndai ledled y gorllewin, ac mae’n cydymdeimlo â’r New Inn yn gorfod cau ac yn cydnabod yr heriau mae tafarndai gwledig yn eu hwynebu er mwyn goroesi erbyn hyn.
“Mae’n rhaid i’r busnes lletygarwch ymdopi â chymaint y dyddiau hyn, dim ond i aros ar agor,” meddai mewn neges ar wefan gymdeithasol Facebook.
“Mae hyn, ynghyd â phroblemau staffio, deddfwriaeth newydd a biwrocratiaeth gynyddol, yn achosi gofid i weithredwyr o bob lefel ym mhob man, gyda llawer o dafarndai yn cau bob wythnos!
“Fel rhywun sydd â phrofiad helaeth yn y busnes hwn, yn enwedig yn ardal gorllewin Cymru, gallaf ddweud yn onest nad ydw i erioed wedi gweld y diwydiant lletygarwch mewn sefyllfa mor enbyd o ran costau a staffio.
“Yn enwedig y pwysau sy’n cael ei achosi gan y costau cynyddol gyson mae’n amhosibl gweithredu â nhw – costau gweithredu a biliau cyfleusterau, trethi busnes, deddfwriaeth, yn ogystal â gorfod codi prisiau a chostau er mwyn aros yn gystadleuol yn y farchnad.”
Ymateb y llywodraeth
Cafodd busnesau lletygarwch ryddhad llawn o ardrethi busnes rhwng 2020 a 2022 oherwydd y pandemig Covid-19.
Cafodd ei leihau yn ddiweddarach i 75%, ond erbyn mis Ebrill nesaf mi fydd y cymorth yn dod i ben.
Mae UK Hospitality yn dweud y gallai hyn gostio £928m yn ychwanegol i fusnesau, a gwneud i filiau rhai cwmnïau gynyddu bedair gwaith yn fwy.
Problem cenedlaethol
Dydy’r problemau sy’n wynebu’r New Inn Ceredigion ddim yn unigryw iddyn nhw chwaith.
Mae cau tafarndai o ganlyniad i’r cynnydd mewn costau cyfleusterau bellach yn digwydd ym mhob cwr o’r wlad.
Caeodd y Brondanw Arms, neu ‘Y Ring’ fel mae’n cael ei hadnabod yn lleol yn Llanfrothen, yn 2022, ar ôl i Fragdy Robinsons gyhoeddi nad oedd modd cynnal y dafarn mwyach oherwydd cynnydd mewn costau ynni a’r anhawster wrth ddod o hyd i denant newydd.
Fis Medi eleni, daeth trigolion lleol at ei gilydd i ffurfio Menter y Ring, sef menter gymunedol i brynu a rhedeg y dafarn eu hunain.
Drwy ymdrechion codi arian a chefnogaeth leol aruthrol, llwyddodd y gymuned i godi’r £200,000 oedd ei angen i sicrhau’r les.
Agorodd y dafarn eto, ac mae bellach yn cael ei rhedeg fel menter gymunedol gan ddod yn ganolbwynt i fywyd lleol.
Maen nhw wedi cynnal Gŵyl Fwyd a Chrefft ym Mhortmeirion, ac yn cynnal cyngerdd Miri Mawr y Fenter – gydag Yws Gwynedd a Mared yn canu ar Ragfyr 28.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.