Mae Llinos Medi yn dweud ei bod hi’n “siomedig” yn sgil ymateb llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i’r sefyllfa ym mhorthladd Caergybi.
Fe fu Aelod Seneddol Plaid Cymru Ynys Môn yn trafod y sefyllfa â golwg360 cyn y cyhoeddiad y bydd porthladd Caergybi ar gau tan o leiaf Ionawr 15.
Mae’r porthladd wedi bod ar gau ers Rhagfyr 6, ar ôl i Storm Darragh achosi difrod i Derfynell 3 a Therfynell 5.
“Dw i’n meddwl, os fysa hwn yn digwydd mewn rhan arall o Gymru, fysa yna ryw ddatganiad mawr gan Brif Weinidog Cymru,” meddai Llinos Medi.
“Yng ngogledd Cymru mae o’n digwydd ac rydan ni’n cael cefnogaeth yr Aelod yn y Senedd sydd â chyfrifoldeb dros y gogledd.”
Ers i Llinos Medi siarad â golwg360, mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi bod yn Abergwaun i gynnal “trafodaethau” efo Awdurdod y Porthladd.
‘Diffyg cydnabyddiaeth o’r sefyllfa’
Wrth drafod ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dywed Llinos Medi fod yna ddiffyg cydnabyddiaeth o’r sefyllfa ganddyn nhw.
“Mae hwn yn borthladd sydd yn bwydo Cymru a’r Deyrnas Unedig,” meddai.
“Yr ail borthladd roll on, roll off prysuraf yn y Deyrnas Unedig.”
Ychwanega nad oes “teimlad o argyfwng” yn San Steffan o gwbl yn sgil y sefyllfa.
‘Effaith uniongyrchol ar lefel bersonol iawn’
Dywed Llinos Medi fod cau’r porthladd am amser hir yn “effeithio’n uniongyrchol ar lefel bersonol iawn”, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.
“Mae’n adeg o’r flwyddyn lle mae rhai yn ei ffeindio hi’n ddigon anodd beth bynnag,” meddai.
“Mae o’n rhan o gymuned pobol.”
I fusnesau, allai cau’r porthladd ddim bod wedi dod ar amser gwaeth, gyda rhai ohonyn nhw’n ddibynnol ar allu cludo nwyddau i Iwerddon, ac eraill yn ddibynnol ar y cwsmeriaid sy’n defnyddio’r llongau.
Dywed Llinos Medi fod yr adeg hon o’r flwyddyn yn hanfodol, gyda phobol yn dewis sut i wario ar ddechrau’r flwyddyn ganlynol.
Ychwanega nad ydi hi erioed wedi bod yng Nghaergybi pan oedd y dref “yn teimlo’n ddistaw ac annaturiol” o ganlyniad i ddiffyg cludiant.
“Dydi [y porthladd] erioed wedi cael ei gau ar raddfa fel hyn o’r blaen,” meddai.
Effaith sy’n amhosib ei “goresgyn”
Wrth drafod yr effeithiau tymor byr, dywed Llinos Medi fod rhai busnesau wedi “gorfod diswyddo [gweithwyr] oherwydd fod ganddyn nhw ddim gwaith a dim incwm iddyn nhw”.
Ychwanega fod yr effaith “yn amhosib i fusnesau ei goresgyn” ar hyn o bryd.
“Mae’r gadwyn gyflenwi’n ehangach na’r pethau mae pobol yn eu sylwi,” meddai.
Dywed fod yna fusnesau ar yr A55 sy’n sylwi ar hyn, gyda llai o yrwyr nag arfer yn gwario arian ar fwyd a diod.
“Mae’r porthladd fel ryw guriad calon yma,” meddai.
“Pan mae o wedi mynd, mae yna ryw wacter mawr, a dyna be’ mae pobol yn ei deimlo.”
Diddordeb mawr yn Iwerddon
Gyda Chymru ac Iwerddon yn cael eu cysylltu gan Borthladd Caergybi, dywed Llinos Medi fod y wasg Wyddelig “yn cymryd diddordeb mawr” yn y pwnc.
“Mae o’n dangos y ffaith fod Caergybi o bwysigrwydd iddyn nhw,” meddai.
“Mae o’n dangos pa mor allweddol ydi’r safle i dyfu’r economi ac i sicrhau bod nwyddau yn cyrraedd yn saff.”
Ychwanega fod y sylw sy’n cael ei roi yn Iwerddon i’r sefyllfa yn “cadarnhau pwysigrwydd y porthladd”.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.