Mae’n “hollol amhriodol” fod gwasanaethau trenau Cymru wedi gwaethygu o ganlyniad i brosiect ‘Lloegr yn unig’ HS2, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.
Daw sylwadau David Chadwick, yr Aelod Seneddol dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, yn dilyn dadl ar y prosiect yn San Steffan.
Doedd yr un o aelodau seneddol Llafur Cymru wedi cyfrannu at y ddadl.
‘Cymru a Lloegr’
“Dydy HS2 ddim yn cynnwys un filltir o’r cledrau yng Nghymru, ond fe benderfynodd y Llywodraeth Geidwadol flaenorol i ddosbarthu’r prosiect yn un ‘Cymru a Lloegr’ – dynodiad mae Llafur wedi gwneud penderfyniad gwleidyddol i’w gadw, er gwaethaf cyfaddefiad eu gweinidogion eu hunain yng Nghymru ei fod yn hollol anghyfiawn,” meddai David Chadwick.
“Ar y cyfan, mae’n ymddangos bod Llafur wedi parhau yn ôl eu harfer er iddyn nhw addo newid y ffordd y cafodd Cymru ei thrin pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym.
“Mae’n hollol amhriodol fod disgwyl i fy etholwyr a phobol ledled Cymru bellach ymdopi â gwasanaethau gwaeth am nifer o flynyddoedd er lles prosiect yn Llundain na fydd o fudd iddyn nhw, tra eu bod nhw’n parhau i gael eu hamddifadu o fuddsoddiad i’w gwasanaethau lleol eu hunain.
“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur hon wrando ar bobol Cymru a sicrhau bod yna gyn lleied o darfu â phosib, a bod Cymru’n derbyn ei chyfran deg pan ddaw i ariannu’r rheilffyrdd.”