Does “dim syndod” fod meddygon teulu yng Nghymru wedi gwrthod cytundeb gyda’r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2024-25, sydd wedi’i gynnig iddyn nhw gan Lywodraeth Lafur Cymru, yn ôl Plaid Cymru.

Cafodd y bleidlais ymhlith meddygon teulu a chofrestryddion ei chynnal ar-lein rhwng Tachwedd 25 a Rhagfyr 16, ac fe wnaeth 99% wrthod y cynnig ar ôl i fwy o feddygon nag erioed o’r blaen ymuno â’r gymdeithas feddygol er mwyn cael bwrw eu pleidlais.

Yn ôl y rhai fu’n pleidleisio, doedd y cynnig ddim yn darparu sicrwydd o ddyfodol cynaliadwy i wasanaethau.

Bydd y canlyniad yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru, a bydd gofyn iddyn nhw wella’r telerau gafodd eu cynnig.

Dywed y BMA eu bod nhw’n barod i weithredu pe na bai’r Llywodraeth yn mynd i’r afael â’u pryderon, gan ychwanegu eu bod nhw “wedi anfon neges glir” yn sgil y bleidlais.

‘Cleifion yn talu’r pris’

“Does dim syndod bod meddygon teulu yng Nghymru wedi gwrthod cynnig diweddaraf Llywodraeth Lafur Cymru – maen nhw’n cael eu gofyn i wneud mwy am lai, gyda chleifion yn talu’r pris,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae gwasanaethau meddygon teulu yn hanfodol i’r gwasanaeth iechyd ond maen nhw yn wynebu argyfwng recriwtio a chadw, erydiad i’w cyllideb, a chynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr – pethau mae’r Blaid Lafur wedi llywyddu drostyn nhw.

“Byddai Plaid Cymru yn edrych i gynyddu cyfran gwasanaethau meddygon teulu o gyllid y Gwasanaeth Iechyd a recriwtio 500 o feddygon ychwanegol i fynd i’r afael â’r materion hyn a’u rhoi nhw a’r Gwasanaeth Iechyd ar sail gynaliadwy.”