Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wedi galw am ragor o eglurhad ynghylch sefyllfa’r A487.
Mae’r ffordd rhwng Corris a Minffordd wedi bod ar gau ers Rhagfyr 11, yn dilyn tirlithriad wedi Storm Darragh.
Mae Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli etholaeth Dwyfor Meirionnydd, wedi gofyn am wybodaeth bellach gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) ar amserlen ailagor y ffordd.
‘Hanfodol’
Mae cau’r ffordd wedi golygu dargyfeiriad o 25 milltir ar daith oedd yn chwe milltir yn wreiddiol.
Mae hyn wedi achosi problemau sylweddol i bobol leol, busnesau, a chysylltiadau trafnidiaeth gogledd-de, sy’n ddibynnol ar y coridor masnach hwn.
Dywed Mabon ap Gwynfor fod “cau’r ffordd rhwng Minffordd a Chorris Uchaf yn cael effaith sylweddol ar fy etholwyr yn ne Meirionnydd, gyda llawer yn dibynnu ar y ffordd i gael mynediad at wasanaethau meddygon teulu ac ysgolion ym Machynlleth er enghraifft”.
“Mae’n hanfodol felly bod gwaith i ailagor y ffordd yn mynd rhagddo’n gyflym,” meddai.
‘Arwydd clir’
Mae Mabon ap Gwynfor eisoes wedi gofyn am gyfarfod brys gydag NMWTRA i ganfod pa gamau sy’n cael eu cymryd i atgyweirio’r difrod ac i ailagor y ffordd.
Yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 17), fe bwysleisiodd ei fod yn “bryderus ynghylch y diffyg gwybodaeth sydd wedi’i darparu i bobl leol a chynrychiolwyr etholedig”.
Fe fu’n galw am “arwydd clir” o ran “pryd y mae Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn rhagweld y bydd y ffordd yn ailagor a pha fesurau lliniaru eraill sy’n cael eu rhoi ar waith”.
“Mae diffyg eglurder yn achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd sylweddol,” meddai.
“Nid yw ond yn deg bod y rhai y mae cau’r ffordd yn effeithio arnynt yn cael gwybodaeth amserol a chlir o’r hyn sy’n digwydd o ran gweithredu tymor byr a chynllunio hirdymor.”
Fe ofynnodd hefyd fod yr Asiantaeth yn darparu arwyddion cliriach i roi gwybod i ddefnyddwyr ffyrdd am y llwybr penodol sydd ar gau, a bod yr arwyddion hyn yn cael eu gosod yn ddiogel yn y lleoliadau mwyaf priodol.