Bydd y ffermwr adnabyddus Gareth Wyn Jones a’r arwr rygbi Scott Quinnell ymhlith y wynebau cyfarwydd fydd yn ymddangos ar rifyn Nadoligaidd o Gogglebocs Cymru nos Wener, Rhagfyr 27.
Yn wyneb cyfarwydd ar deledu a’r cyfryngau cymdeithasol, mae gan Gareth Wyn Jones hyd at dair miliwn o danysgrifwyr ar ei sianel YouTube.
Wrth baratoi i ymddangos ar y rhaglen dros yr ŵyl, dywed ei fod yn addo “dweud ei ddweud” wrth drafod rhinweddau’r teledu gyda Scott Quinnell.
“Mae gwaith fferm yn golygu nad oes gen i lawer iawn o amser i wylio’r teledu,” meddai.
“Yn y gwanwyn a’r haf, dw i allan tan yn hwyr yn gofalu am yr anifeiliaid, ac yn y gaeaf mae pentwr o waith papur i’w wneud.
“Unrhyw beth efo stori neu raglenni da am fywyd ac anifeiliaid cefn gwlad… ond dw i’n edrych ymlaen at Gogglebocs ’Dolig.
“Dw i ddim wedi gweld Scott ers tro, a bydd yn wych i ddal i fyny efo fo.
“Mae gan Scott farn bendant ar rai pethau, ac un felly dw innau hefyd, ac rwy’n siŵr y bydd yna adegau pan fydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno.
“Mae’r ddau ohonon ni’n eitha’ di-flewyn-ar-dafod, felly dw i’n siŵr y bydd yna ychydig o dân gwyllt geiriol ar adegau – ond bydd y cyfan mewn ysbryd hwyliog!”
Lisa Gwilym a Llŷr Ifans
Bydd Llŷr Ifans, seren y ffilm Twin Town, a’i wraig, y gyflwynwraig Lisa Gwilym, hefyd yn ymddangos ar y rhaglen eleni.
Dywed Lisa Gwilym nad yw hi’n gwybod beth sydd i’w ddisgwyl ar S4C na sianeli eraill dros y Nadolig, ac felly y bydd yr hyn fydd yn rhaid iddyn nhw ei wylio yn “sypreis”.
“Dw i’n hoffi pob math o deledu, o raglenni dogfen da i chwaraeon, ac wrth gwrs, dramâu.
“Rwy’n mwynhau gwylio pêl-droed, a byddaf yn gwylio gemau efo Jacob.
“Dw i’n siŵr y bydd gennym ni rywbeth i’w ddweud am yr holl raglenni!
“Mae Llŷr yn arbennig o barod i gynnig sylw neu ddau!”
Mirain Iwerydd a Melanie Owen
Bydd y gyflwynwraig Mirain Iwerydd yn ymuno â’r ddigrifwraig Melanie Owen i roi eu barn onest yn ystod y rhaglen.
Dywed Mirain Iwerydd ei bod wedi cyffroi yn sgil y cyfle i ymddangos ar Gogglebocs ’Dolig.
“Dyma fydd fy sioe enwog gyntaf, ac alla i ddim aros!” meddai.
“Bydd yn llawer o hwyl!
“Fydd Gogglebocs ’Dolig ddim yn wahanol i be’ ydyn ni’n gwneud fel arfer pan rydyn ni’n ymlacio o flaen y teledu.
“Rydyn ni’n gwylio ac yn pasio sylwadau ar beth sydd ymlaen, ac rwy’n siŵr y bydd digon o biffian!”
Gair gan y cynhyrchydd
Dywed Euros Wyn, cynhyrchydd y gyfres, fod y lein-yp Nadoligaidd yn cynnwys sawl aelod o raglen arbennig Nadoligaidd y llynedd.
“Fe wnaeth y rappers Lloyd Lew a Dom James hefyd ymddangos y Nadolig diwethaf, a bydd eu ffrind a’u cyd-rapiwr Sage Todz yn ymuno y tro hwn,” meddai.
“A bydd y cyn bêl-droedwyr Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones hefyd ar y sioe unwaith eto.
“Ar ben hynny, byddwn yn cael ein croesawu i gartref y gyflwynwraig a chantores Elin Fflur, fydd yn ymuno â’i ffrind, yr actores Mari Wyn Roberts, sy’n chwarae’r blismones Siân Richards ar y gyfres ddrama boblogaidd Rownd a Rownd.
“O fyd coginio, rydym wedi gwahodd Colleen Ramsey a’i chwaer Roisin unwaith eto i leisio eu barn, ac yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf fydd y cyflwynwyr teledu a chantorion, sydd hefyd yn bartneriaid, Lisa Angharad a Rhys Gwynfor.”