Lee Walters, Prif Weithredwr Ffilm Cymru, yw cadeirydd newydd BAFTA Cymru.
Mae’n olynu Angharad Mair, sydd wedi bod yn y swydd wirfoddol ers naw mlynedd.
Mae’r cadeirydd yn arwain pwyllgor BAFTA Cymru, sef grŵp cynghori sy’n cynnwys arweinwyr trawsddiwydiannol ac ymarferwyr creadigol o Gymru.
Mae’r Pwyllgor yn helpu i lywio gwaith BAFTA Cymru, gan gefnogi’r diwydiannau ffilm, gemau a theledu yng Nghymru drwy eu Gwobrau BAFTA Cymru blynyddol a’u rhaglen o weithgareddau i gefnogi pobol greadigol Cymru ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, sy’n cynnwys digwyddiadau a dangosiadau drwy gydol y flwyddyn a rhannu bwrsariaethau BAFTA.
Cafodd Lee Walters ei gyfethol i bwyllgor BAFTA Cymru ym mis Ebrill 2023.
Pwy yw Lee Walters?
Mae Lee Walters yn ffigwr blaenllaw yn niwydiannau creadigol Cymru, ac ers 2023 mae wedi bod yn arwain Ffilm Cymru, yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilm, fel Prif Weithredwr.
Mae’n gyfrifol am arweinyddiaeth a rheolaeth strategol pob maes yn y sefydliad, gan gynnwys datblygu a chynhyrchu ffilm, sgiliau a hyfforddiant, arddangos ffilmiau a chynaliadwyedd gwyrdd.
Cyn hyn, cafodd yrfa amrywiol dros bymtheg mlynedd yn y BBC, arweiniodd at rôl gyfathrebu fel Uwch Reolwr Newid a sefydlu pencadlys newydd BBC Cymru yng nghanol Caerdydd.
Wrth adael y BBC, ymunodd â Phrifysgol Caerdydd, lle bu’n Rheolwr Rhaglen ar Clwstwr, sef rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol oedd yn cefnogi cwmnïau a gweithwyr llawrydd i greu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sgrin.
Mae hefyd wedi gweithio fel Uwch Gynhyrchydd / Rheolwr Cronfa i Media Cymru, gyda chyfrifoldeb am reoli’r tîm Cyflawni Ymchwil a Datblygu, yn ogystal â chyflwyno a goruchwylio prif gystadlaethau cyllid uwchradd Media Cymru.
‘Amser cyffrous i fod yn cadeirio’r sefydliad’
“Rwy’n teimlo’n hynod freintiedig o gael olynu Angharad Mair fel Cadeirydd BAFTA Cymru,” meddai Lee Walters.
“Drwy gydol ei chyfnod, mae Angharad wedi bod yn hyrwyddwr brwd dros y diwydiant a’r doniau sydd gennym yma yng Nghymru, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r genhadaeth honno.
“Mae Cymru yn genedl o storïwyr naturiol, yn gyfoethog o ran iaith a diwylliant, ac rwy’n teimlo’n angerddol am y rôl gadarnhaol y gall BAFTA ei chwarae wrth ddathlu’r rhagoriaeth honno a meithrin cenhedlaeth newydd sy’n barod i adrodd ein straeon i’r byd.
“Mae’n amser cyffrous i fod yn cadeirio’r sefydliad, ac rwy’n ddiolchgar o gael gweithio ochr yn ochr â Rebecca Hardy, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, a’r tîm ehangach wrth i ni barhau i gefnogi a dathlu diwydiant ffilm, gêm a theledu ffyniannus Cymru.”