Bydd cyfres ddarllen newydd, fydd yn cynnwys llyfrau a deunydd digidol, i’w chanfod yn ysgolion Cymru yn 2025.
Mae Osian Evans, datblygwr technoleg o Gaerfyrddin, wrthi’n lansio’r platfform addysgiadol ‘Goiawn’ dan arweiniad rhieni ac athrawon.
Bydd ‘Goiawn’ yn “cyflwyno gweithgareddau darllen cyfareddol fydd yn tywys dosbarthiadau ar anturiaethau di-ri wrth wella’u sgiliau cyfathrebu”, meddai.
Yn ogystal â llyfrau a gwefannau, bydd ‘Goiawn’ hefyd yn cynnwys deunydd o’r gêm fideo ryngweithiol Roblox.
Antur Amser
Y cyntaf o brosiectau’r platfform fydd y gyfres Antur Amser.
Stori wyddonias i blant yw’r rhaglen ddysgu hon, sy’n adrodd hanes yr efeilliaid Gruff a Gwen sy’n byw ar y blaned Mawrth yn y flwyddyn 2113.
Mae cynllun peilot y rhaglen eisoes yn weithredol yn rhai o ysgolion cadarnleoedd y Gymraeg, a hynny’n rhan o brosiect Arfor, sef cynllun sy’n cefnogi busnesau bychain Cymraeg yng Nghaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn.
Ond bydd Antur Amser yn ehangu y tu hwnt i gadarnleoedd y Gymraeg yn 2025, ac mae gobaith y bydd yn cael ei gyfieithu er defnydd ysgolion Saesneg Cymru yn y dyfodol agos.
‘Ysbrydoli pobol ifanc’
Mae Osian Evans, sylfaenydd y platfform, yn 49 mlwydd oed ac yn dad i dri o blant.
Mae wedi ennill gwobr BAFTA, diolch i’w waith ar amryw o brosiectau addysgiadol rhyngweithiol, gan gynnwys apiau i’r BBC, S4C, a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Wrth drafod uchelgais platfform Goiawn, dywed ei fod yn byw ag anhwylderau ADHD a dyslecsia, ac felly ei fod yn “gwerthfawrogi pwysigrwydd” medru canolbwyntio ar fyd dychmygol fel un Amser Antur i blant sy’n ei chael hi’n anodd wrth ddysgu darllen.
Yn ddiweddar, fe fu golwg360 yn adrodd am ddirywiad ym mhatrymau darllen a llythrennedd plant a phobol ifanc Cymru.
Mae’r math yma o stori, yn ôl Osian Evans, yn medru “ysbrydoli pobol ifanc i fod yn greadigol, i gydweithio, ac i ddatrys problemau”.
Caiff y sgiliau hyn eu hannog gan y gemau aml-chwaraewr y bydd Goiawn yn eu cynnig, fydd yn herio disgyblion i gymhwyso’u dealltwriaeth a’u gwybodaeth.
Ychwanega Osian Evans fod cydlynwyr y platfform yn awyddus i “ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr, yn enwedig darllenwyr anfoddog, drwy’u diddanu a’u haddysgu yn yr ystafell ddosbarth ac yn y cartref”.