Roedd hi’n glawio pan gyrhaeddodd Wryhtel. A dweud y gwir, mae’n glawio’n aml yma. Doedd dim syndod, felly, pan gafodd y fro ei henwi’n ‘Ddôl ddyfrllyd Wryhtel’. Ond roedd o i’w weld yn reit hapus yma. Setlodd ym mhlyg yr afon, ac yn raddol daeth eraill i fyw yno hefyd.

Tyfodd y gymuned, a bu llawer iawn o newidiadau dros y blynyddoedd. Sefydlodd un teulu estynedig uffar o ystâd fawr grand – caeau, llwyni, a chlamp o dŷ gyda gerddi cymhleth o’i amgylch.

Ond daeth tro ar fyd, a bu farw aelod ola’r teulu oedd yn byw yn y tŷ, oedd mewn tipyn o stad erbyn hynny. Cafodd y tŷ a’r gerddi eu rhoi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a chafodd rhan o’r tir ei werthu hefyd.

Cafodd ystâd o dai ei hadeiladu ar y tir, ac roedd y trigolion wrth eu boddau yn cerdded yn y llwyn ac yn padlo yn yr afon. Enw’r ardal hon oedd Erddig.

Un bore oer ym mis Ionawr, a’r lle yn eira i gyd, cafodd baban bach gwanllyd ei geni, a daeth i fyw mewn tŷ o’r enw ‘Ger-y-llwyn’ yn Erddig. Enw’r baban oedd Sara.

Digon sigledig fu dechrau ei bywyd, ond tyfodd Sara yn hogan ifanc reit iach ar y cyfan, ac roedd hi’n hoff iawn o nofio, mynd am dro trwy’r wig a’r llwyn, a chwarae gemau ar ei chyfrifiadur.

Un o hoff gemau Sara oedd SimCity – cyfle i ddychmygu ei hun yn cynllunio ac yn adeiladu dinasoedd. Roedd hyn yn waith cymhleth. Roedd rhaid cynllunio’n ofalus i osgoi problemau gyda charffosiaeth, gor-boblogi mewn rhai ardaloedd, ac anfodlonrwydd y cyhoedd; roedd pethau fel adeiladu temlau ac ati yn helpu hefo hyn.

Darragh a’i waddol

Wrth i’r blaned gael ei llygru, a’r hinsawdd yn cael ei effeithio, gwelsom lawer o dywydd eithafol yma, gan gynnwys stormydd gwyllt a brawychus.

Un diwrnod, daeth storm fawr o’r enw ‘Storm Darragh’. Roedd yn seiclon trofannol, yn ôl pob sôn. Am ryw 60 awr, roedd y gwyntoedd wedi gwylltio, y coed yn plygu ac yn torri, a phobol yn eu tai yn dyfynnu cerdd Ted Hughes wrth ei gilydd trwy gyfrwng Facebook.

Drannoeth, roedd y trigolion, druan â nhw, mewn panig braidd – wedi methu mynd allan o’u tai am ddiwrnod cyfan, heb fod i’r un siop, ac roedd perygl gwirioneddol iddyn nhw redeg allan o lefrith, papur tŷ bach, neu’n waeth fyth, bwyd i’r gath!

Allan i’r siopau â nhw yn eu miloedd, felly, gyda nifer ohonyn nhw’n mynd draw i Barc Manwerthu Plas Coch. Roedden nhw’n gorfoleddu wrth iddyn nhw heidio i mewn i M&S a Pets at Home, ac yna i Costa am baned.

Ac ar y diwrnod hwnnw, yn ddigon diddorol, aeth Sara draw i ‘Marks & Sparks’, gan feddwl dychwelyd dillad roedd hi wedi’u prynu ar-lein, ond fod y rhai anghywir wedi cyrraedd. Ond wrth gerdded i mewn i’r adeilad, gwelodd taw M&S Food yn unig oedd yno, felly trodd ar ei sawdl a mynd yn ôl i’r car.

Ond, o! Dyna sioc! Wrth geisio gadael y maes parcio, aeth yn sownd mewn ciw. Yn wir, bu’n eistedd ene am ddeng munud, heb symud modfedd! Ac roedd hyn yn rhoi digon o amser iddi synfyfyrio – ond, wrth gwrs, roedd yna broblem…

Dim ond un ffordd i mewn ac allan sydd i Barc Manwerthu Plas Coch, a hynny drwy ddefnyddio cylchfan eithaf bach. Caiff y gylchfan ei rhannu gyda’r Sainsbury’s enfawr sydd o flaen y parc manwerthu, a hefyd gyda thafarn y Plas Coch a Phrifysgol Wrecsam. Ac o’r gylchfan fechan, mae’r ffordd yn ymuno â’r gylchfan fawr i adael y ddinas ac i droi i’r chwith heibio’r Cae Ras!

Wrth sylweddoli hyn, tynnodd Sara allan o’r ciw, gan barcio a cherdded draw i Costa gan feddwl cael coffi. Ond roedd y lle’n orlawn, a doedd dim byrddau i’w cael, heb sôn am gael at flaen y ciw ac archebu tê afal hefo sinamon a sbeisys eraill!

Allan â hi, felly, draw at y dafarn gan obeithio archebu bwyd. Ond cafodd sioc o glywed nad oedd modd gwneud hynny heb ddefnyddio’i ffôn symudol – a hynny gan gynnwys rhoi llawer o wybodaeth bersonol i mewn, gan gynnwys dyddiad geni a manylion banc. ‘Wel, dim diolch!,’ meddyliodd.

Aeth i Pets at Home a phrynu tegan llygoden i’r gath, a gwyliodd y moch cwta am ychydig cyn ei throi hi ’nôl am y car. Roedd y ciw wedi diflannu erbyn hynny, a llwyddodd i ddianc o’r maes parcio a’i throi hi am adref.

Moeswers Aeosopaidd

Ac wrth eistedd ar y gwely, yn llymeitian tê ac yn mwytho’r gath – oedd wrth ei bodd â’i thegan llygoden newydd, gyda llaw – crwydrodd meddwl Sara yn ôl at ei hystafell wely draw yn ardal Erddig ryw 30 mlynedd yn ôl, lle bu’n chwarae SimCity ac yn ceisio cynllunio’n ofalus er mwyn osgoi creu anhrefn yn ei dinasoedd.

Cafodd ei hun yn synfyfyrio: pam fyddai unrhyw un yn cynllunio parc manwerthu fel’na, gyda dim ond un ffordd i mewn ac allan ac yn rhannu cylchfan gyda chynifer o fusnesau eraill? Onid oedd tagfeydd o’r fath yn anochel, tybed?!

Roedd un peth yn sicr yn ei meddwl. Fyddai hi ddim yn gwneud y camgymeriad o fynd ene byth eto! A’r diwrnod wedyn, gyrrodd draw i’r M&S yn Cheshire Oaks.

Mae’n ddifyr bod mewn bro, ‘sdi. Dw i wedi gweld pob dim dros y blynyddoedd ym mywydau’r trigolion. Ac yma fydda i hefyd, pan fyddan nhw’n tewi am byth, ryw ddydd.