Y Foneddiges Ustus Nicola Davies yw Canghellor newydd Prifysgol Aberystwyth – y ddynes gyntaf erioed i gamu i’r rôl.

Cafodd ei geni yng Nghymru, a’i magu yn Llanelli a Phen-y-bont ar Ogwr, gan fynychu Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr i Ferched.

Hi oedd yr aelod cyntaf o’i theulu i fynd i’r brifysgol.

Bu’n gweithio yn Llundain fel dadansoddwr buddsoddi, cyn cael ei galw i’r Bar yn 1976.

Arbenigodd mewn cyfraith feddygol, gan gynnwys esgeulustod clinigol, troseddau, gwaith rheoleiddio ac ymchwiliadau, gan weithredu mewn nifer o achosion nodedig, gan gynnwys Sidway v Bwrdd Llywodraethwyr Ysbyty Bethlem, Ymchwiliad i Gam-drin Plant Cleveland, ac Ymchwiliad Llawfeddygon y Galon Bryste yn y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Cafodd ei phenodi i Gyngor y Frenhines yn 1992, yn ddirprwy farnwr yr Uchel Lys yn 2003, a Barnwr yr Uchel Lys (Cangen Mainc y Frenhines) yn 2010.

Rhwng 2014 a 2017, bu’n Farnwr Gweinyddol Cylchdaith Cymru, ac yn 2018 cafodd ei phenodi i’r Llys Apêl.

Hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i fod yn ddeiliad yr holl swyddi hyn a’r fenyw gyntaf o Gymru i’w phenodi’n Foneddiges Ustus Apeliadau.

Bu’n Gydgynullydd Cynghrair Lletai’r Llysoedd dros Fenywod am y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn Drysorydd Gray’s Inn yn 2023.

Mae rôl Canghellor Prifysgol Aberystwyth yn un seremonïol a llysgenhadol o bwys, gan gynnwys cynrychioli’r sefydliad mewn digwyddiadau mawr megis graddio.

‘Anrhydedd enfawr’

“Mae’n anrhydedd enfawr cael fy mhenodi i’r rôl hon,” meddai’r Gwir Anrhydeddus y Foneddiges Ustus Nicola Davies.

“Yn ganolog i genhadaeth Prifysgol Aberystwyth mae ymrwymiad i ddarparu addysg ac ymchwil o safon fyd-eang sy’n cryfhau Cymru a’r byd ehangach.

“O fewn y Brifysgol mae cymuned hynod ymroddedig a chefnogol o staff a myfyrwyr, sy’n cael ei gwerthfawrogi gymaint.

“Mae fy ymrwymiad i addysg yn arbennig o bwysig gan ei fod yn rhan ffurfiannol o fy nghefndir.

“Y blynyddoedd yn Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr a’m gosododd ar y llwybr i lwyddiant proffesiynol.

“Fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i fynychu’r brifysgol, ac nid fy nghefndir i oedd yr un ‘confensiynol’ i berson oedd yn ceisio mynediad i’r Bar.

“Rwy’n gweld y rôl hon fel cyfle i roi rhywbeth yn ôl i addysg uwch ac i Gymru – mae’r ddau wedi bod ac yn dal i fod yn ganolog i fy mywyd a fy nghymeriad.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle.”

‘Barnwr o fri’

“Pleser o’r mwyaf yw croesawu barnwr o fri o statws a pharch y Foneddiges Ustus Nicola Davies i’n cymuned yma yn Aberystwyth,” meddai Meri Huws, cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth.

“Mae ganddi’r dyfnder o brofiad a’r doniau fydd o gymorth mawr i ni wrth edrych ymlaen at y dyfodol.

“Yn ogystal, hoffwn i ddiolch o waelod calon i’w rhagflaenydd yn y rôl, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, am ei holl waith dyfal dros y sefydliad a’n llwyddiannau diweddar.”

Ychwanega’r Athro Jonathan Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, fod “penodiad y Foneddiges Ustus Nicola Davies yn newyddion ardderchog” i’r brifysgol.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda hi wrth i ni barhau i drawsnewid ein sefydliad a gwneud cyfraniad o bwys wrth i ni gwrdd â’r heriau sy’n ein hwynebu fel cenedl ac fel byd ehangach,” meddai.