Mae Cymdeithas yr Iaith wedi arddangos cadwyn bapur ar ffurf plant ar risiau’r Senedd, er mwyn galw am addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn.
Daw’r weithred cyn pleidlais ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg Gymraeg.
Cafodd yr arlunydd Osian Grifford ei gomisiynu i lunio’r gwaith, er mwyn pwysleisio bod y gyfundrefn addysg yn amddifadu 80% o blant o’r Gymraeg ar hyn o bryd, ac i bwyso am newid er mwyn rhoi’r Gymraeg i bawb yn y dyfodol.
Bydd y gwaith celf hefyd i’w weld yn rali ‘Sefyll gyda’r 80%: Addysg Gymraeg i Bawb’ y mudiad wrth y Senedd ddydd Sadwrn, Chwefror 15, i alw am gryfhau’r Bil i sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn hyderus yn y Gymraeg.
Ymysg y siaradwyr fydd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith, y bardd a llenor Hammad Rind, a Catrin Edith, Is-Lywydd y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Bil y Gymraeg ac Addysg
Mae Aelodau’r Senedd yn cynnal dadl ac yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 14).
Bwriad y Bil yw darparu sail statudol ar gyfer targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a rhoi “cyfle teg” i bob plentyn adael yr ysgol yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
Mae Cymdeithas yr Iaith o’r farn na fydd y Bil yn llwyddo, am nad oes targedau statudol ar gyfer y ganran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg, am nad yw’n mynd i gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, a bod diffyg ymrwymiadau cyllidol i uwchsgilio gallu Cymraeg y gweithlu.
I dynnu sylw at ddiffygion y Bil, gosododd y mudiad gadwyn bapur o ddeg o blant tu allan i’r Senedd, gydag wyth yn las i gynrychioli’r 80% o blant yng Nghymru sy’n gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn hyderus, a dau yn goch i gynrychioli’r 20% sy’n gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg, gan eu bod mewn addysg Gymraeg.
‘Dyletswydd’
“Pwrpas gweithred heddiw yw atgoffa’n gwleidyddion o’u dyletswydd i blant Cymru a methiant ein system addysg i roi’r Gymraeg i bob plentyn,” meddai Joseff Gnagbo, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Ar hyn o bryd, mae 80% o’n plant yn cael eu hamddifadu o’r hawl i siarad ein hiaith genedlaethol, a phlant o gefndiroedd cymdeithasol difreintiedig, lleiafrif ethnig ac o ardaloedd penodol sy’n cael eu hamddifadu fwyaf.
“Y perygl yw y bydd y Bil yma’n dal i amddifau rhan helaeth plant Cymru am ddegawdau i ddod.
“Mae gwleidyddion yn dweud yn aml bod y Gymraeg yn perthyn i bawb.
“Os felly, dylen nhw fanteisio ar y cyfleoedd fydd ganddyn nhw i gryfhau’r Bil yn sylweddol, a gweithredu ar eu rhethreg fel nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl, a bod ein hiaith wir yn perthyn i bob un yng Nghymru.”
Galw am eglurder
Er bod Samuel Kurtz, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg, yn cefnogi’r egwyddor o anelu at filiwn o siaradwyr erbyn 2050, mae ganddo bryderon am yr hyn mae’n ei alw’n ddiffyg manylion yn y ddeddfwriaeth.
Mae’n rhybuddio y gallai’r ddeddfwriaeth danseilio safonau addysg, gorlwytho athrawon, a chamddosbarthu adnoddau allweddol.
Mae’r blaid yn awyddus i gael rhagor o fanylion, gan gynnwys datblygu cynllun gweithlu penodol – pryderon sydd hefyd wedi’u codi gan Bwyllgor Addysg y Senedd.
“Mae’n hanfodol, felly, bod Llywodraeth Cymru’n darparu’r manylion angenrheidiol o fewn y Bil hwn, gan ddangos bod addysg ein plant yn parhau’n flaenoriaeth, a bod staff addysgu Cymru’n cael eu cefnogi’n ddigonol i wireddu’r uchelgeisiau hyn,” meddai.