Mae’r anwyldeb cyhoeddus rhwng Japan a Chymru ar hyn o bryd yn kawaii (ciwt) iawn – yn enwedig y perfformiadau karaoke o anthemau cenedlaethol ein gilydd gan lysgennad Japan i’r Deyrnas Unedig a’n Prif Weinidog i lansio Blwyddyn Cymru a Japan. Am lansiad! Ar TikTok ac Instagram, mae clipiau o’r llysgennad Suzuki Hiroshi (cyfenw yn gyntaf, fel y mae yn yr iaith Japaneg) a’i werthfawrogiad o’r hen iaith a phice ar y maen wedi dwyn calonnau ar hyd a lled y wlad.

Y Nadolig hwn, es i yn ôl i Japan ar wyliau, naw mlynedd ar ôl i mi adael fy swydd ar ôl dwy flynedd yn ddarlithydd Saesneg mewn prifysgol yn Yokohama – ond y tro yma, i’r ddinas sy’n cael mwy o eira nag unrhyw le arall yn y byd, Aomori, gogledd Honshu (prif ynys Japan) – un ffordd o waranti Nadolig gwyn o leiaf (ac, ar ben hynny, gyda chryn dipyn o karaoke!).

Y peth gorau yw, dyw’r chwyddiant sydd wedi gwthio costau byw i fyny ar draws y Gorllewin ddim wedi effeithio ar Japan i’r un graddau – i’r gwrthwyneb, mae’r wlad wedi bod yn stryglo gyda datchwyddiant ers degawdau, ac yn ddiweddar gyda dibrisiant – felly mae Japan yn gyrchfan twristiaeth sy’n llawer mwy fforddiadwy na’r disgwyl. Costiodd ystafell ddwbl tatami draddodiadol i mi a’m ffrind ddim ond 7000 Yen y noson – tua £35 (ble, yn y Deyrnas Unedig, allech chi ddod o hyd i rywle i aros am £35?!).  Coffi i fynd o konbini (siop hwylustod), 110 Yen (55c).  Pryd o fwyd llawn mewn bwyty gyudon – cig eidion ar reis gyda phowlen o gawl miso iach ar yr ochr, sy’n boblogaidd ymhlith sarariman (gweithwyr coler gwyn) – 400 Yen (£2).

Dinas annhebygol

Gyda hyd at bron i 8m o eira yn disgyn bob blwyddyn yn Aomori, mae’n amhosib credu nad yw’r maes awyr erioed wedi canslo hediad oherwydd yr eira – ond mae hynny’n wir. Mae’r maes awyr yn cyflogi tîm enfawr o fwy na 100 o staff arbenigol, o dan y faner ‘White Impulse‘, i sicrhau bod y llain lanio’n ddiogel i lanio arni. Yn ôl adroddiadau, mae awdurdodau’r ddinas yn gwario mwy na $35m bob blwyddyn i glirio eira yn y ddinas, gan gynnwys adeiladu waliau eira ar hyd y strydoedd er mwyn cadw’r ardal fusnes ganolog yn weithredol.

Ac mae hynny’n codi cwestiynau. Pam wnaeth pobol ymgartrefu yno yn y lle cyntaf, ac i ba raddau mae’n werth y gost o gynnal y ddinas ar gyfer llai na 270,000 o drigolion heddiw? Fe dyfodd y ddinas fodern i’w phoblogaeth a’i statws presennol fel canolbwynt trafnidiaeth a gweinyddol yn y 200 mlynedd diwethaf. Serch hynny, er gwaethaf y tywydd heriol, mae tir yr ardal yn hynod gynhyrchiol, ac ar y safle UNESCO Sannai-Maruyama ger y ddinas, mae yna dystiolaeth o gymdeithas soffistigedig cyfnod Jomon, hyd at 5,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae Hirosaki, dinas arall yn Aomori-ken (sir Aomori), yn enwog ledled Japan am ei phei afalau anhygoel, wedi’i wneud â llaw ag afalau lleol, sy’n cyfuno blasau melys a chwerw – enghraifft o’r safonau crefftwaith mae’r Japaneaid yn gweithio iddyn nhw. Yn ogystal, mae’r môr yn gynhyrchiol iawn, ac mae’r dref gyfagos Oma yn dal kilos o kuro maguro (Pacific Bluefin Tuna) i’w gwerthu i gleientiaid cyfoethog yn Tokyo.

Daliwch ati

Gyda’i chymdeithas sy’n heneiddio a’i phoblogaeth sy’n crebachu, gallai Japan ofyn: beth yw’r pwynt cario ymlaen? Beth yw’r pwynt cynnal cymunedau sy’n byw mewn llefydd anghyfleus a heriol? Beth yw’r pwynt buddsoddi mewn seilwaith os na fydd cynifer o bobol i’w mwynhau yn y degawdau nesaf?

I mi, yr hyn sy’n arbennig am Japan yw’r ffaith fod gan y Japaneaid agwedd gadarnhaol – hyd yn oed stoicaidd (â benthyg cysyniad gorllewinol, os yw hynny’n addas) – wrth ateb y cwestiynau hyn. Pam ei bod hi’n werth gwario cymaint o arian a threulio cymaint o amser yn clirio’r eira? Achos maen nhw’n gwerthfawrogi eu dinas. Pam ei bod hi’n werth gwneud cymaint o ymdrech i sicrhau bod blasau eu pei afalau yn cydbwyso â’i gilydd? Achos maen nhw’n gwerthfawrogi eu diwylliant bwyd. Achos mae ganddyn nhw ddiwylliant sy’n werth yr ymdrech, faint bynnag o bobol sydd i’w gwerthfawrogi. Achos maen nhw eisiau heneiddio ag urddas. Dyna pam ei bod hi’n werth dal ati.

Fe fydd yn rhaid i’n cymdeithas ni yma yng Nghymru ofyn cwestiynau tebyg, wrth i ni wynebu pwysau ariannol, gwleidyddol a demograffig yn y blynyddoedd i ddod. Rwy’n gobeithio y byddem yn cytuno bod ein diwylliant, ein cymunedau a’n crefftwaith yn werth eu cynnal yn yr un modd.

Yn y cyfamser – akemashite omedetō gozaimasu (Blwyddyn Newydd Dda)! Croesi bysedd am flwyddyn lwyddiannus o gydweithio rhwng Cymru a Japan.