Nos Sul, Rhagfyr 29, 2024

6.15yh: Ahhh, mae’r Dolig tu cefn i ni bellach, ac mae’r saib ôl-Ddolig wedi cyrraedd. Braf! Does dim rhaid i mi fynd i unlle – ddim hyd yn oed allan o’r tŷ, gan fod digon o fwyd yn y rhewgell i bara mis! Ond dw i mo’yn mynd allan i’r noson meic agored, felly dw i’n gwisgo’n gynnes ac yn neidio yn y car bach ffyddlon, a ffwrdd â fi!

7yh: Dw i’n cyrraedd y Magic Dragon Brewery Tap ac yn eistedd ar bar stool. Cyn pen dim, dw i’n sgwrsio hefo rhai o’r perfformwyr eraill, gan gynnwys trafodaeth am y caneuon wnaethon ni eu canu’r noson o’r blaen yn y Royal Oak – pa ganeuon roedden ni wedi’u hoffi a.y.b. Braf!

Mae’r dafarn yn dechrau llenwi toc – llawer iawn o punters yn crwydro o amgylch y lle yn gwisgo’r gigbags siâp gitâr fel backpacks ar eu cefnau; am ryw reswm, mae’r munudau cyntaf hyn wastad yn fy nifyrru!

Rownd 1: Canu yn y Gymraeg

8yh: Dwi wedi cael slot cynnar, a dw i wrth y meic yn rwdlan am sut roeddwn wedi bod yn Google-o: “Ydi hi’n ocê i ganu caneuon Nadoligaidd ar ôl Dydd Dolig?” Ac wedyn, roeddwn wedi sylweddoli nad oedd y gân dan sylw wir yn gân Nadoligaidd wedi’r cyfan, heblaw bod seren ynddi… a finnau’n cyfeirio ati fel cân Dolig yn aml…

Rywsut, dw i’n llwyddo i dynnu fy hun o’r tailspin yma cyn i bobol ddiflasu’n llwyr a dechrau taflu tomatos a ballu! Dw i’n canu ‘Ar hyd y nos’ yn a cappella, ac mae yna bobol yn y dorf yn mwmian – a rhai yn canu’r gytgan hefo fi; ac mae yna groeso mawr i’r Gymraeg yn y dafarn hon, sy’n deimlad hyfryd.

Dw i’n mentro rhoi cynnig wedyn ar ‘Those were the days’. A waw! Mae’n andros o boblogaidd! Mae yna ddyn o ’mlaen i hefo gitâr, ac mae o’n dechrau canu’r alaw arni; mae John Ramm drws nesaf i mi yn canu nerth ei ben ac yn chwarae’r ‘cajon’ mae o’n eistedd arno, gan gadw pawb (gan gynnwys fi) i rythm twt. Mae’n teimlo fel pe bai’r dafarn i gyd yn canu!

Dw i’n canu ‘Dreams’, ‘Sŵn ar gerdyn post’ ac ‘Oes Aur Wrecsam’ cyn i Sasha, arweinydd y noson, ddod draw ac esbonio taw tair cân yr un rydym yn eu cael – gyda phosibilrwydd o ddychwelyd nes ymlaen, efallai. Wps!

Dw i’n mynd yn ôl at fy sêt, ac ar y ffordd mae dyn yn siarad hefo fi yn y Gymraeg, gan ddweud faint roedd yn gwerthfawrogi clywed y caneuon Cymraeg. Roedd wedi dysgu Cymraeg gan fod ei wraig yn siaradwr iaith gyntaf. Roedd hefyd wedi mwynhau ‘Mary Hopkin’, meddai.

Rownd 2: Caneuon poblogaidd

10yh: Yn ddigon ‘smala, mae pawb oedd am gael tro wedi canu, felly mae’r cylch yn ailgychwyn, a fi sydd ar y meic unwaith eto. Wrth feddwl pa fath o ganeuon sydd wedi bod yn boblogaidd, dw i’n mynd at wefan ‘A-Z lyrics’ ac yn ‘mofyn y lyrics i ‘Vincent’ ac yna ‘American Pie’, ac yn canu’r ddwy gan ddarllen y lyrics oddi ar y ffôn.

Dw i’n gyrru nôl adref ar ben fy nigon, yn llawn cyffro a brwdfrydedd am baratoi caneuon priodol ymlaen llaw at y noson meic agored nesaf.

Dydd Gwener, Ionawr 3, 2025

Dw i’n synfyfyrio ar ba mor boblogaidd oedd ‘Those were the days’ y noson o’r blaen. Cân ryfeddol ag iddi hanes cymhleth, amlieithog, difyr. Mae’r geiriau i’r fersiwn Saesneg wnaeth Mary Hopkin ei chanu ar gael yn hawdd ar y we.

Felly roedd honno’n ‘hit’, ac roedd croeso mawr i’r caneuon Cymraeg. Felly, beth am ganu un o ganeuon Cymraeg Mary Hopkin? Achos do, fel siaradwr Cymraeg rhugl, mi wnaeth hi albwm cynnar, gan gynnwys trosiad Ann Clee o’r gân Saesneg ‘Something stupid’ – sef ‘Rhywbeth Syml’.

Dw i’n Google-o ac yn Google-o… ond tydi’r lyrics i’r hen gân gan gantores boblogaidd ac enwog ddim ar gael?! Na’dy, tydy’r gân ddim ar Spotify, lle fysa rhywun yn disgwyl iddyn nhw fod.

Y peth agosaf dw i’n ei ffeindio yw nodyn ar seiat Reddit, lle mae yna apêl dorcalonnus am ‘Welsh speakers! Lyrics help needed!’ Rhywun sydd bellach yn byw yn Lloegr oedd wedi ceisio sgwennu’r lyrics ei hun, er ei fod yn cyfaddef nad yw ei Gymraeg gystal ag yr oedd yn arfer bod.

Wrth sbïo, dw i’n medru gweld camgymeriadau posib – ond mae’n anodd iawn i mi gynnig help yn fa’ma, gan fod fy nghlyw bellach yn rhy wael i mi ganfod geiriau mewn caneuon – hyd yn oed hefo dim ond un llais ac un gitâr.

Yn wir, cyn i mi ddod o hyd i’r geiriau i ‘Sŵn ar gerdyn pôst’, fues i wrthi’n Google-o am ryw air fel ‘Galminez’/ ‘Galmanez’, gan feddwl taw gair o Dde America oedd e… ond na, ‘Cam yn nes’ oedd e, wedi’r cwbl!

Mae angen i mi astudio’r geiriau er mwyn creu trac, ac wedyn dw i’n defnyddio’r rhain i osod yr hyn dw i’n ei glywed dros y top – os ydi hynny yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl!

Moeswers Aesopaidd

Mi wn taw ‘rhywbeth syml iawn’ yw canu caneuon Cymraeg mewn noson meic agored – ac ydw, mi ydw i wedi creu fy nhrosiadau fy hun o ambell i gân Saesneg boblogaidd hefyd. Tydi hi ddim yn mynd i gyfrannu ryw lawer at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, na chreu siaradwyr newydd a.y.b. Ond mae’n ‘rywbeth syml’.

Ond fy mwriad, ar ben dysgu’r lyrics i fi fy hun, oedd perswadio un o fy ffrindiau sy’n medru’r Gymraeg, ac sydd â llais da ond sydd ddim yn canu’n gyhoeddus eto, i ganu deuawd hefo fi yn y meic agored nesaf. Ond cyn i mi ddechrau ar yr her yma, mae’n her jyst ‘mofyn y geiriau hyd yn oed!

Dw i’n teimlo’n angerddol y dylai mofyn lyrics fel hyn fod yr un mor hawdd ag y mae hi i mi mofyn lyrics Saesneg tebyg – er mwyn i mi gael cyfrannu ‘rhywbeth syml’ mewn modd digymell.

Yn ddigon ‘smala, wrth sgwrsio ar Facebook, mi wnaeth un o fy ffrindiau, Rex Caprorum, lwyddo i deipio’r geiriau allan a’u rhannu hefo fi, felly dyma’u rhannu nhw fa’ma, gydag erthygl o’r un enw â’r gân, er mwyn cael eu mofyn nhw yn hawdd yn y dyfodol!


Rhywbeth Syml (Trosiad Ann Clee o’r gân ‘Something stupid’)

Mi wn mai rhywbeth syml iawn

Yw dweud fy mod yn meddwl fawr

O rywun fel ti

Ond, cariad, gad im eto ddweud

Mai ti yw’r unig un

Sy’n gwneud fy nghalon yn rhydd.

Mae hyn yn wir, a chofia

Pan y byddi wrth dy hun

Ryw noson unig ddu.

Pan wêl yr haul dy wyneb tlws,

Yfory byddaf innau yn dy garu.

 

Pan dd’wedais wrthyt neithiwr fod yn rhaid i mi

dy adael am y flwyddyn hon

Meddyliais am yr amser pan y’th gwelaist ti

tro cyntaf a dy wyneb llon

O gadw di’r dystiolaeth hon yn drysor

mwy nag arian yn dy galon i mi

Ac anfon gair a chusan fach

mewn amlen llawn o gariad

dros y tonnau di-ri’

F’anwylyd, paid â chrwydro ‘mhell o’r harbwr

lle ffarweliodd y cariadon cu

Daw’r llynges nôl â mi i’th freichiau dithau

ryw ddiwrnod, paid â phoeni

 

La la la la….

 

Mae hyn yn wir, a chofia

Pan y byddi wrth dy hun

Ryw noson unig ddu.

Pan wêl yr haul dy wyneb tlws,

Yfory byddaf innau yn dy garu

 

O gadw di’r dystiolaeth hon yn drysor

mwy nag arian yn dy galon i mi

Ac anfon gair a chusan fach

mewn amlen llawn o gariad

dros y tonnau di-ri’

F’anwylyd, paid â chrwydro ‘mhell o’r harbwr

lle ffarweliodd y cariadon cu

Daw’r llynges nôl â mi i’th freichiau dithau

ryw ddiwrnod, paid â phoeni

 

La la la la…

 

Mae hyn yn wir, a chofia

Pan y byddi wrth dy hun

Ryw noson unig ddu.

Pan wêl yr haul dy wyneb tlws,

Yfory byddaf innau yn dy garu

Yn dy garu

Yn dy garu.