Mae Llywodraeth Catalwnia a’r OECD (y Sefydliad ar gyfer Cydweithio a Datblygu Economaidd) wedi dod i gytundeb er mwyn gwella’r system addysg yno.
Daw’r cytundeb flwyddyn ar ôl y canlyniadau profion PISA gwaethaf erioed i blant 15 oed yng Nghatalwnia.
Mae’r cytundeb yn rhan o addewidion Salvador Illa, Arlywydd Catalwnia, i fynd i’r afael â’r system addysg, ac mae ymhlith yr addewidion cyntaf i gael eu gwireddu ganddo.
Cynnydd fesul cam
Ond mae’n rhybuddio na fydd y cytundeb yn arwain at wella canlyniadau ar unwaith, a’i fod yn disgwyl gweld ffrwyth y cytundeb ymhen tua phedair blynedd.
Eleni, bydd yr OECD yn cynnal adolygiad o’r sefyllfa.
Y flwyddyn nesaf, bydd camau cynta’r cytundeb yn cael eu rhoi ar waith ac fe fyddan nhw’n cael eu hatgyfnerthu yn 2027.
Y disgwyl yw y bydd canlyniadau terfynol y cytundeb i’w gweld erbyn 2028.
Er ei fod yn dweud bod llawer iawn o ysgolion yn gweithio’n “dda iawn” a bod ganddo ffydd mewn athrawon ac ysgolion, dywed fod nifer o adroddiadau a dangosyddion yn awgrymu canlyniadau gwael a bod “lle i wella”.
Mae rhai yn y wlad yn credu bod gan Gatalwnia’r gallu i fod yn arweinydd byd ym maes addysg, ac er mwyn gwireddu hyn mae’n debygol y bydd y llywodraeth yn dilyn esiampl gwledydd eraill gan fabwysiadu dulliau a thechnegau tebyg sydd wedi gweld llwyddiant.