Mae cyfran sylweddol uwch o ddisgyblion Cymru sydd ag anghenion arbennig yn cael eu gwahardd o’r ysgol nag yr oedd ddeng mlynedd yn ôl.

Ym mlwyddyn academaidd 2013-2014, roedd 7.2% o ddisgyblion ysgol uwchradd oedd ag anghenion arbennig wedi’u gwahardd.

Ond, wedi cynnydd bron bob blwyddyn ers hynny, mae’r ffigyrau diweddaraf ar gyfer 2022-2023 yn awgrymu bod cynifer ag 11.6% wedi’u gwahardd.

Mae hyn yn gynnydd o 160% ar y ffigwr gwreiddiol.

Mae cynnydd tebyg, ar lefelau is, i’w weld yng ngwaharddiadau plant ag anghenion arbennig o ysgolion cynradd Cymru hefyd.

Mae canran y disgyblion ag anghenion arbennig sydd wedi’u gwahardd o ysgolion cynradd wedi mwy na dyblu, o 1.4% yn 2013-2014 i 3% yn 2022-2023.

Mae’r ffigyrau hyn i gyd yn sylweddol uwch na chyfradd gyffredinol gwaharddiadau o’r ysgol, oedd yn 0.6% mewn ysgolion cynradd ac yn 5.9% mewn ysgolion uwchradd yn 2022-2023.

‘Siomi’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r cynnydd, ac yn awgrymu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu mynd i’r afael â gwreiddiau camymddwyn.

Dywed Natasha Ashgar, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, fod y ffigurau’n “datgelu’r gwirionedd ofnadwy, fod Llywodraeth Lafur Cymru yn “siomi” plant mwyaf bregus y wlad.

Ychwanega nad oes “unrhyw gynlluniau go iawn” gan y Blaid Lafur i “ddatrys achosion sylfaenol tarfu a chamymddwyn yn y dosbarth”.

“Fedr y Blaid Lafur ddim gwadu mai sgil-effaith eu tanariannu nhw ydy’r diffygion adnoddau a’r dosbarthiadau gorlawn mae ysgolion a chynghorau Cymru yn eu hwynebu,” meddai.

“Mae baich y trafferthion hyn ar ysgwyddau’r rheiny mae angen eu cefnogi fwyaf.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.