Ar Ddydd Gŵyl San Steffan eleni, mae’n union ugain mlynedd ers i ddaeargryn ar raddfa 9.1 daro arfordir gogledd Sumatra, gan achosi tswnami enfawr yng Nghefnfor India chwalodd filiynau o fywydau, a dinistrio miloedd o filltiroedd o’r arfordir.
Cafodd pobol dros y byd eu syfrdanu gan y delweddau o’r dinistr gafodd eu darlledu ar y newyddion.
Collodd dros 225,000 o bobol eu bywydau, yn bennaf yn Indonesia, Gwlad Thai, India a Sri Lanca, a chafodd dros ddwy filiwn o bobol eu gadael yn ddigartref.
Cafodd dinistr ar raddfa fawr ei achosi i isadeiledd, a difrod economaidd helaeth.
Cafodd y daeargryn a’r tswnami a’i dilynodd eu disgrifio fel y trychineb naturiol gwaethaf i daro’r cyfnod modern.
Athro mewn ysgol gynradd yn Aceh, Indonesia yw Junaedi. Roedd yn ddyn ifanc yn 2004, ac yn byw o fewn rhyw 200m o’r môr.
“Cefais fy neffro gan y daeargryn,” meddai.
“Roedd y cloc ar y wal yn crynu a drysau’r dodrefn yn agor… pan dawelodd fe es i â fy rhieni allan… roeddem yn ddiolchgar fod ein tŷ pren yn dal yn sefyll.
“Funudau wedyn, clywsom weiddi a rhybudd fod dŵr y môr yn codi… Gwelsom don yn y pellter oedd yn uwch na’r coed mangrof, a dechreuodd pawb redeg am dir uwch.
“O’r bryn, gwylion ni’r don yn agosáu gan sgubo drwy’r strydoedd a thai….
“Dringais i’r graig uchaf y gallwn i…
“Daeth ail don ar ei ôl… pan giliodd hwnnw, sylweddolais i fod fy rhieni wedi diflannu.”
Disgrifiodd Junaidi y cyfnod o ddryswch a ddilynodd, o chwilio am ei frodyr, a wedyn chwilio am fwyd ymhlith y dinistr, i gysgu ar y mynydd yn yr awyr agored yng nghanol ôl-gryniadau.
“Roedd yna wyrth, ac fe lwyddais i ddod drwyddo yn gwbl ddianaf.
“Fe wnaeth hyn fy ysgogi i fod yn rhiant i’m brodyr.”
Cefnogaeth DEC
Cafodd y teulu eu cefnogi mewn lloches dros dro gan elusen DEC World Vision.
Yn y pen draw, symudodd Junaedi a’i wraig i gartref gafodd ei adeiladu gan yr asiantaethau cymorth.
Lansiodd y DEC Apêl Daeargryn Tswnami mewn ymateb i’r trychineb, ac o fewn oriau roedd yn glir y byddai’n apêl hanesyddol.
Daeth ymateb digynsail gan y cyhoedd, a chafodd £10m ei dderbyn o fewn diwrnod (gan dorri Record Byd Guinness am y swm mwyaf o arian gafodd ei godi ar-lein mewn 24 awr).
Cafodd cyfanswm rhyfeddol o £392m ei godi yn y pen draw – sydd, o’i addasu ar gyfer chwyddiant, werth tua £690m heddiw.
Mae’n dal i fod yr apêl fwyaf yn hanes y DEC.
Darparodd elusennau DEC gymorth brys a lloches i filiynau o bobol yn Indonesia, India, Myanmar, y Maldives, Sri Lanca, Somalia a Gwlad Thai, yn ogystal â chymorth tymor hwy wrth i bobol ddechrau ailadeiladu eu bywydau a’u bywoliaethau.
Gwaddol yr apêl
Mae gwaddol yr apêl yn dal i’w weld heddiw.
Yn Aceh yn unig, cafodd mwy na 13,700 o dai eu hadeiladu, ond cafodd cyfleusterau glanweithdra, dŵr glân a gofal iechyd eu darparu hefyd.
Cynigodd elusennau DEC hefyd fenthyciadau i fenywod a physgotwyr. Cafodd hyfforddiant ei ddarparu i berchnogion busnes, offer i ffermwyr ac addysg i blant.
Mae pobol yn dal i gael budd heddiw o’r gefnogaeth wnaethon nhw ei derbyn.
Ar y pryd, fodd bynnag, fe wynebai’r asiantaethau dyngarol heriau sylweddol. Roedd yna angen i ymateb i ddinistr ar raddfa fawr, dros ardal ddaearyddol enfawr.
Roedd hefyd angen i gydweithio ag ystod eang o rhanddeiliaid – goroeswyr, asiantaethau cymorth eraill, llywodraethwyr ac awdurdodau lleol – a hynny mewn ystod o gyd-destunau gwahanol.
Roedd rhai ardaloedd yn dlawd iawn ac eraill yn profi gwrthdaro arfog.
Tra bo haelioni’r ymateb yn golygu fod gan elusennau DEC bosibiliadau ariannol digynsail, roedd yna hefyd bwysau allanol mawr i wario’r arian yn gyflym, gan achosi tensiwn gyda’r angen i gynllunio am yr hirdymor ac ymgynghori gyda’r poblogaethau gafodd eu heffeithio.
Roedd Madara Hettiarachchi, Cyfarwyddwr Rhaglenni ac Atebolrwydd y DEC, yn gweithio gydag aelod o elusen y DEC World Vision ar y pryd.
Roedd hi’n ymweld â theulu yng ngogledd Sri Lanca pan darodd y tswnami.
Yn dilyn y trychineb, ymunodd a thîm ymateb World Vision yn y wlad.
“Mae’n anodd disgrifio’r hyn a welsom,” meddai.
“Maint y dinistr a’r holl bobl â’u bywydau wedi’u troi wyneb i waered a’r straeon dirdynnol gan oroeswyr.
“Mae’r profiad a gefais i’n dal i wrth wraidd fy nealltwriaeth o beth y mae ymateb dyngarol yn ei olygu, a’r gwersi a ddysgom yn dal i arwain fy ngwaith heddiw.
“Yn y 2000au cynnar, roedd atebolrwydd yn aml yn golygu adrodd yn ôl i roddwyr, nid y bobol roeddem yn eu helpu.
“Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’r sector dyngarol wedi newid cryn dipyn.
“Nid derbyn cymorth mewn modd goddefgar mae cymunedau heddiw ond, yn hytrach, cyfranogi mewn modd gweithredol – mae staff arbenigol gan y mwyafrif o elusennau i sicrhau hyn.
“Mae’r DEC wedi chwarae rhan fawr yn yr esblygiad hwn, ac mae cymorth dyngarol yn fwy atebol, hyblyg a chymunedol.”
Cafodd nifer o wersi eu dysgu drwy gydlynu ymateb dyngarol mor gymhleth.
Cafodd yr angen am gynllunio a pharatoi ar y cyd ar gyfer trychinebau, adeiladu isadeiledd cadarn fyddai’n gwrthsefyll trychinebau naturiol ei danlinellu, a hefyd sicrhau bod cymunedau wrth galon ymdrechion adferiad yn sgil trychinebau.
Y wers fawr
“Roedd darparu lloches a chynllunio ac ailadeiladu cartrefi yn rhan allweddol o’r ymateb dyngarol wedi’r tswnami,” meddai Siân Stephen, Rheolwr Materion Allanol y DEC yng Nghymru, wrth golwg360.
“Ond roedd hyn hefyd yn waith cymhleth – a bu yna feirniadaeth o’r amser hir y bu’n rhaid i bobl aros am gartref.
“Ar y pryd roedd asiantaethau dyngarol yn anesmwyth ynglŷn â rhoi arian parod i bobol – gan boeni am risgiau yn gysylltiedig â hynny.
“Fodd bynnag y wers fawr a ddaeth o’r tswnami oedd mai darparu grantiau arian parod, hyfforddiant, a/neu ddeunyddiau adeiladu oedd y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithlon o bell ffordd o alluogi pobol i fynd ati i ailadeiladu eu bywydau.
“Erbyn heddiw lle y bo deunyddiau ar gael yn lleol, a marchnadoedd yn dal i weithredu, mae’n rhan ganolog o bron bob ymateb dyngarol.
“Yn ogystal â buddsoddi mwy mewn paratoi am drychinebau, mae asiantaethau dyngarol hefyd wedi gweithio’n galed i sicrhau fod gan bobol leol mwy o lais a rôl mewn arwain yr ymateb.
“Mae hyn yn gofyn am werthuso parhaol – nid jest ar ddiwedd prosiect.
“Wedi’r cyfan, y bobol leol oedd yno cyn y trychineb, ac a fydd yno ymhell wedi’r asiantaethau adael.”
Ers tswnami 2004, mae’r DEC wedi lansio 26 apêl arall – gan ymateb i sefyllfaoedd sydd wedi amrywio o lifogydd, sychder a newyn, i ddaeargrynfeydd, pandemig a gwrthdaro.
Cafodd apêl fwyaf diweddar y DEC ei lansio ym mis Hydref, mewn ymateb i’r argyfwng dyngarol yn Gaza a Libanus.
Mae Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol bellach wedi codi dros £2.2m yng Nghymru a dros £37m ar lefel y Deyrnas Unedig.
Mae cefnogaeth unigolion a chorfforaethol – o Gymdeithas Bêl-droed Cymru i gorau cymunedol, wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant hwn.
Heb os, cyd-destunau gwahanol iawn sydd yn wynebu gweithwyr dyngarol rheng flaen Gaza i’r rheini fu ar lawr gwlad yn dilyn Tswnami 2004.
Fodd bynnag mae ymdrechion yn parhau i gymhwyso’r gwersi ac arfer dda gafodd eu dysgu dros y blynyddoedd.
Yn yr apêl bresennol, mae 38 mudiad lleol yn rhan o’r ymateb dyngarol, ac yn chwarae rôl bwysig mewn sicrhau fod gan bobol leol gynrychiolaeth a rôl go iawn wrth lunio’r ymateb.
Mae grantiau arian parod hefyd yn wedi cael eu defnyddio yn eang, nid yn unig yn Libanus a Syria, ond hefyd yn Gaza ei hun, ar yr adegau pan gafodd mynediad i lorïau masnachol i’r llain ei ganiatau, ond roedd prinder nwyddau yn golygu fod eu pris y tu hwnt i gyrraedd pobol heb gymorth ariannol allanol.
Tra na fydd dwy apêl fyth yr un fath, mae’r ymdrechion i wella yn elfen gyffredin ym mhob un – sydd yn ei dro yn golygu bodd modd gwneud mwy i achub ac ailadeiladu bywydau.