Cyri Twrci Tikka Masala

Medi Wilkinson, colofnydd bwyd golwg360, sy’n awgrymu rhai syniadau ar gyfer ail-ddefnyddio gweddillion eich cinio Nadolig yn ddiogel

Ysu am sbeis ar ôl cinio ’Dolig traddodiadol? Beth am roi cynnig ar y cyri twrci tikka masala blasus yma.

Byddwch angen:

  • Gweddillion y twrci (tua 600g)
  • Olew olewydd
  • Nionyn
  • 4 ewin o garlleg
  • Sinsir
  • Tsili
  • 1 llwy de o hadau cwmin
  • 1 llwy de o goriander
  • ½ llwy de o baprica
  • ½ llwy de o bowdr chipotle (dewisol)
  • ½ llwy de o dyrmerig wedi’i falu (turmeric)
  • ½ llwy de o garam masala
  • Llwy fwrdd o biwrî tomato
  • 400g o domatos wedi eu torri
  • Llwy fwrdd o siytni mango
  • 100ml o hufen dwbl – cofiwch wirio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’
  • 2 lwy fwrdd o iogwrt naturiol

(Reis a bara naan garlleg i’w gweini)

Coginio

Cam 1

Cynheswch yr olew mewn dysgl gaserol neu badell ffrio dros wres canolig, a ffriwch y nionod am 10-12 munud nes eu bod yn euraidd. Trowch y garlleg, sinsir, tsili a’r holl sbeisys, a’u coginio am ambell funud yn ychwanegol nes bod y gymysgedd yn debyg i bâst. Cymysgwch y pwirî tomato  a’r siytni mango nes ei fod yn mudferwi. Coginiwch am 10 munud arall.

Cam 2

Ychwanegwch y rhan fwyaf o’r hufen a’r iogwrt, os ydych chi am eu defnyddio, gan ddod â’r cymysgedd i bwynt mudferwi. Ychwanegwch y twrci a pharhau i’w goginio nes bod y twrci’n chwilboeth. Tynnwch y badell o’r gwres a tywalltwch yr hufen sy’n weddill a’i gymysgu am ychydig. Gwasgarwch y coriander am ei ben a’i weini gyda’r reis a’r bara naan ar yr ochr.

Mae llawer o wahanol ffyrdd y gallwch chi ailddefnyddio a bod yn greadigol gyda’ch bwyd dros ben dros y Nadolig, a gwneud i’ch bwyd fynd ymhellach. Gallwch rewi unrhyw fwyd dros ben ar gyfer prydau yn y dyfodol. Mae’r rhewgell yn gweithio fel ‘botwm oedi’. Mae’n ddiogel rhewi bwyd unrhyw bryd cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ gan gynnwys ar y diwrnod ei hun. Am fwy o wybodaeth a syniadau i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach, ewch i: https://www.food.gov.uk/nadolig

Mae Medi Wilkinson yn golofnydd bwyd rheolaidd ar golwg360 a gallwch ddarllen ei ryseitiau eraill ar y gwasanaeth.

Asiantaeth Safonau Bwyd