Cwis Mawr y Nadolig 2024 (Rhan 1)

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon mawr y flwyddyn a fu?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y Nadolig, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon yn ystod y flwyddyn a fu… Faint ydych chi’n ei gofio?

Cwestiwn 1

Ar 19 Mawrth, fe wnaeth Mark Drakeford annerch y Senedd am y tro olaf fel Prif Weinidog. Ers faint o flynyddoedd oedd o wedi bod wrth y llyw?


Cwestiwn 2
Arwydd Senedd CymruRay Morgan / Shutterstock.com

Eleni, bu Senedd Cymru yn dathlu faint o flynyddoedd ers ei sefydlu?


Cwestiwn 3
Comisiwn y Senedd

Pryd ddaeth Eluned Morgan yn Brif Weinidog Cymru ar ôl ymddiswyddiad Vaughan Gething?


Cwestiwn 4

Faint o Aelodau Seneddol o Gymru gafodd eu hethol yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf?


Cwestiwn 5

Pa blaid yng Nghymru gollodd pob un sedd yn yr etholiad cyffredinol?


Cwestiwn 6

Ar Fehefin 6, roedd hi'n 80 mlynedd ers pa ddiwrnod arwyddocaol yn ystod yr Ail Ryfel Byd?


Cwestiwn 7

Pwy gafodd ei ddiswyddo fel rheolwr y tîm cenedlaethol ym mis Mehefin?


Cwestiwn 8
S4C

Sara Davies enillodd Cân i Gymru eleni. Beth oedd enw’r gân fuddugol?