Yn rhinwedd ei swydd flaenorol yn bennaeth Cymorth Cristnogol yng Ngymru, fe wnaeth y Parchedig Jeff Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ymweld â Llain Gaza, Israel a’r Lan Orllewinol fwy nag unwaith…
Wrth i ni wylio mewn arswyd y gwrthdaro parhaus yn y wlad lle cerddodd Iesu, yn enwedig y lladdfa o blant a phobol ddiniwed, mae’n hawdd iawn anobeithio.
Ond mae’n rhaid i ni gredu y gall gobaith ddisgleirio o galon dioddefaint.
Mae sawl math o dywyllwch yn y byd ac yn ein bywydau personol. Ond y tywyllwch sy’n gwneud goleuni gobaith yn weladwy.
Yn y gobaith hynny y byddwn yn heidio i gapeli ac eglwysi unwaith eto y Nadolig hwn i chwilio am olau tragwyddol yr ymgnawdoledig Dduw sydd â’r gallu i dreiddio i ddyfnder tywyllaf y byd – y goleuni na all dioddefaint, casineb nac elyniaeth fyth ei ddiffodd.
Dwy fil o flynyddoedd ers genedigaeth Iesu, mae ei neges o obaith, heddwch a chymod yn dal i gael ei chyhoeddi – a bydd yn cael ei chyhoeddi yng Nghymru ac ar draws y byd tan fod dynoliaeth yn cydnabod oferedd rhyfel a therfysgaeth yn y diwedd.