Mae “ymdrechion digynsail” yn cael eu gwneud i gael pobol adref i Iwerddon cyn y Nadolig, yn dilyn cau porthladd Caergybi, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Daw hyn ar ôl i borthladd Caergybi orfod cau dros dro yn ddiweddar.

Yn ôl y Llywodraeth, mae cynlluniau wrth gefn yn eu lle ar gyfer cyfnod y Flwyddyn Newydd.

Dros y penwythnos, hwyliodd llongau ychwanegol o Gymru i Iwerddon, er gwaetha’r heriau sy’n cael eu hachosi gan wyntoedd cryfion.

‘Her nad ydym erioed wedi’i hwynebu o’r blaen’

“Mae’r amodau wedi bod yn hynod heriol ar draws y Deyrnas Unedig, ond mae Llongau ychwanegol o Gymru ac ardal Mersi wedi hwylio, gan helpu pobol a nwyddau i gyrraedd Iwerddon ar gyfer y Nadolig,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru.

“Bydd rhagor o longau’n parhau i hwylio cyn y Nadolig.

“Hoffwn ddiolch i’r cwmnïau fferi am eu hymdrechion i gynnig opsiynau hwylio gwahanol.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n teithio i wirio’r trefniadau gyda’u cwmni fferi.

“Mae hon yn her nad ydym erioed wedi’i hwynebu o’r blaen, ond byddwn yn parhau i gydweithio â llywodraethau’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon i achub gobeithion a chynlluniau pobol a busnesau.

“Byddwn hefyd yn gweithio gyda pherchnogion Porthladd Caergybi i sicrhau eu bod yn gallu ailagor cyn gynted â phosibl, gan ei fod yn borthladd hynod bwysig i Iwerddon a’r Deyrnas Unedig.”