Mae’n “ddiwrnod trist eithriadol” ar ôl i blasty Llancaiach Fawr gau ei ddrysau am y tro olaf ddoe (dydd Sul, Rhagfyr 22), yn ôl Delyth Jewell.

Yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, “ddylai Llancaiach Fawr ddim bod wedi wynebu’r cau hwn”.

Dywed ei fod yn “fater tristwch mawr a siom i gynifer ohonom”.

“Mae ein diolch i’r rhai weithiodd ac a wirfoddolodd yno, a’n gobaith yw y bydd perchennog preifat yn cael ei ganfod,” meddai.

“Diwrnod trist eithriadol.”

Toriadau

Daeth y penderfyniad i gau plasty Llancaiach Fawrth wrth i Gyngor Caerffili geisio arbed arian.

Eu gobaith yw arbed £45m dros y ddwy flynedd nesaf.

Ac fe ddaeth y penderfyniad er gwaethaf ymyrch i achub yr adeilad lle mae ugain o staff yn gweithio ochr yn ochr â deunaw o wirfoddolwyr, ac er gwaetha’r datganiad gwreiddiol y byddai’n cau dros dro.

Mae Cyfeillion Llancaiach Fawr wedi diolch i’r gweithwyr yno.