Rydyn ni yng nghrombil adeg o’r flwyddyn sy’n dal i drïo glynu wrth yr hen arferion, mewn byd boncyrs sy’n prysur lithro o’n gafael. Ac mae yna draddodiad hyfryd o Wlad yr Iâ sy’n haeddu sylw. Traddodiad twymgalon o’r enw Jólabókaflóð – trïwch chi ddweud hynna ar ôl eich ail Baileys! – sy’n cyfieithu fel ‘dilyw o lyfrau Nadolig’, lle mae teulu a ffrindiau yn cyfnewid llyfr ar noswyl Nadolig. Bydd rhai’n ffeirio bocs o siocled neu gwrw Islandeg i gyd-fynd â’r darllen hefyd. Y syniad ydi swatio yn eich pyjamas a mwynhau eich anrheg mewn print. Meddai María Rán Guðjónsdóttir o Gymdeithas Cyhoeddwyr Gwlad yr Iâ mewn cyfweliad â theparliamentmagazine.eu:
“Bydd rhai’n aros lan drwy’r nos yn darllen gan eu bod nhw gystal llyfrau. Mae fel gwyliau darllen. Mae’n gyfnod braf iawn.”
Felly, tafarn yn berwi o bobol gyda Mariah Carey yn sgrechian ar y jiwcbocs, neu noson dawel adre’n darllen nofel newydd o glawr i glawr? ‘Sdim cystadleuaeth.
Mae’r arferiad yn tarddu o’r Ail Ryfel Byd, gyda rasiwns llym ar hyd a lled Ewrop. Cyfnod pan oedd papur yn gymharol rad yng Ngwlad yr Iâ ond nwyddau eraill yn brin, gan arwain at gyflwyno rhodd o lyfr ar Ragfyr 24. Aeth pethau o nerth i nerth o 1944 ymlaen, pan gafodd Bókatíðindi’ (bwletin llyfrau) ei gyhoeddi am y tro cyntaf erioed, yn rhestru’r holl lyfrau newydd sbon ar gyfer yr ŵyl, a chafodd copi ei anfon yn rhad ac am ddim i bob aelwyd ar yr ynys. Roedd rhifyn 2023 yn cynnwys 650 o deitlau. Bellach, mae 80% o holl werthiant llyfrau blynyddol Gwlad yr Iâ yn digwydd adeg Jólabókaflóð.
Fel yr ategodd Guðjónsdóttir:
“Mae llyfrau’n annwyl iawn i ni. Bydd plant yn pori drwy’r catalog yn gyffro i gyd, gan farcio’r rhai yr hoffen nhw eu derbyn. Arferwn innau wneud hynny’n blentyn hefyd.”
Swnio fel fersiwn tipyn mwy diwylliedig o’n catalog Argos ninnau flynyddoedd yn ôl! Dw i’n siŵr y byddai podledwyr Colli’r Plot yn cymeradwyo!
A’r cyfan yn dyst i hanes a lle anrhydeddus Gwlad yr Iâ fel un o’r gwledydd â’r lefelau llythrennedd uchaf y byd. Gwlad sy’n cyhoeddi mwy o lyfrau y pen nag unrhyw le arall. Ac mae ffeithiau eraill yr un mor glodwiw. Mae pobol Gwlad yr Iâ yn darllen 2.3 llyfr y mis ar gyfartaledd, a menywod a theuluoedd â phlant gyda’r llyfrbryfed mwyaf brwd. Creda mwyafrif helaeth, neu 76%, o boblogaeth y wlad fod mynediad at gymorth a chyllid cyhoeddus yn hollbwysig i lenyddiaeth Gwlad yr Iâ. Ac mae Reyjkavík yn Ddinas Llenyddiaeth UNESCO er 2011.
Gyda llenyddiaeth yn rhan mor hanfodol o dreftadaeth ddiwylliannol y wlad, mae’r llywodraeth yn darparu help llaw gyda rhaglen gyllid gwerth ISK 400 miliwn (tua £2.28m) y flwyddyn. Nid bod pethau’n fêl i gyd wrth gwrs! Fel y dywedodd Helga Ferdinandsdóttir, rheolwr prosiect Canolfan Lên Gwlad yr Iâ, mae cystadleuaeth y gwasanaethau ffrydio a newid mewn arferion darllen pobol yn heriol. Ond mae’n swnio’n sefyllfa lawer iachach na’n maes cyhoeddi ninnau ar hyn o bryd. Mae trybini diwylliant llyfrau Cymru yn hysbys i bawb eleni, gyda 40% o doriad mewn degawd i grantiau cyhoeddi yn y Gymraeg a 60% yn llai o gyllid tuag at farchnata yn y ddwy iaith, o du Llywodraeth Lafur Cymru.
Ond cyn boddi’n ormodol mewn felan cyn-Dolig, beth am ystyried hyn… Ar benwythnos olaf o wario gwirion cyn y Diwrnod Mawr, beth am inni gyd heidio i’n siopau llyfrau Cymraeg i brynu nofel, hunangofiant, cyfrol o farddoniaeth neu docyn llyfr saff-o-blesio-pawb?
Ys dywed yr Athro Jeremy Hunter wedi siom y ‘Danial’ fis Awst eleni:
“Yn hytrach na chwyno nad yw’r gystadleuaeth hon wedi esgor ar nofel newydd eleni, ewch yn syth… at eich siop lyfrau lleol a phrynu nofel Gymraeg nad ydych wedi’i darllen… Mae digon o ddewis ac mae’r dewis hwnnw’n destun diolch, pleser a balchder.”
Mae ’mryd i eisoes ar nofelau newydd Meleri Wyn James, Dyfed Edwards, Angharad Price ac Arwel Vittle. Gan obeithio y cewch chi rywfaint o lonyddwch Llychlynnaidd i fwynhau darllen dros y Nadolig.