“Llyfr? Be ydi llyfr Mam?”

Tybed a fydd cenedlaethau’r dyfodol yn gofyn cwestiynau fel hyn? Tybed a fyddan nhw’n meddwl mai hen draddodiad sy’n perthyn i’r gorffennol ydi darllen llyfrau?

Dw i’n ystyried darllen yn ffordd o ddianc o’r byd go iawn. Mae gan eiriau ar bapur y gallu i roi golwg newydd i chi ar fywyd, gyda phob nofel yn cynnig ei ffenestr ei hun i edrych drwyddi ar y byd. Wrth edrych yn ôl ar fy mhlentyndod, mae atgofion lu o ddarllen yn dod i’r cof. Stori cyn gwely, cystadleuaeth Cwis Llyfrau yn yr ysgol gynradd, ac astudio nofelau yn yr ysgol uwchradd.

Does dim dadlau fod darllen llenyddiaeth yn greiddiol i’r profiad addysgiadol. Mae pwylais mawr ar lythrenedd yn y byd addysg a gallu disgyblion i ddarllen a dehongli yr hyn maen nhw’n ei ddarllen. Caiff darllen ei ystyried yn allwedd i’r cwricwlwm, a bod rhaid darllen i gael dealltwriaeth o bob maes dysgu. Pryder mawr, felly, yw safle Cymru yng nghanlyniadau profion Pisa, sydd yn isel iawn, mae’n debyg, o’i gymharu â gwledydd fel Iwerddon, Denmarc a Latfia. Credaf fod digonedd o lyfrau plant ar gael, a bod mwy a mwy yn cael eu cyhoeddi gan weisg yn flynyddol. Mae’r arlwy i’w gael i’w weld ar wefannau’r Cyngor Llyfrau, Gwales a’r gweisg i gyd. Mae darllen llyfrau’n ganolog i brofiad o fewn addysg gynradd, ac o bosib, mae mwy o gefnogaeth gan y rhieni bryd hynny hefyd.

Sgrîn ar draul papur

Ond, o ‘mhrofiad i, wrth dyfu’n hŷn ac addasu i fwrlwm y byd technolegol sy’n prysur ddatblygu, newidiodd pethau’n reit sydyn. Nid trwyn mewn llyfr sydd gan bawb bellach, ond trwyn mewn sgrîn. Dyma’r drwg yn y caws! Os na allwn ei reoli, rydym yn gaeth i dopamine y cyfryngau cymdeithasol. Gellir dadlau fod agwedd newydd wedi treiddio i mewn i gymdeithas, gan ei bod hi’n her i bobol ganolbwyntio am gyfnod hir. Mae llwyfanau megis TikTok yn rhannu clipiau byr 30 eiliad di-ben-draw, gyda’r bwriad o gaethiwo pobol ifanc i’w ffonau; clipiau lliwgar sy’n trafod pob mathau o bethau – coginio, colur, pêl-droed, gwersi addysgiadol, pobol yn chwarae triciau, a’r holl trends sy’n tyfu a thyfu. Mae hyn yn codi’r cwestiwn, pa fath o wybodaeth sydd yn apelio at y to iau y dyddiau hyn? Wel, adloniant a strategaethau o dderbyn gwybodaeth yn gyflym, siŵr iawn! Os nad ydi tair eiliad gyntaf y clipiau o ddiddordeb i’r gwyliwr, mae’n symud i’r un nesaf. A oes posib, mewn gwirionedd, cael yr un lefel o dopamine wrth ddarllen llyfr?

Eironig, rywsut, ydi gweld yr holl weisg yn hysbysebu eu cynnyrch ar eu gwefannau a llwyfannau digidol, ond drwy wneud hynny mae’n amlwg iddyn nhw ddeall mai dyna lle caiff pobol eu gwybodaeth y dyddiau hyn. Mae ymdrech farchnata’r Cyngor Llyfrau, y gweisg eu hunain, a phodlediadau megis Colli’r Plot i gyd yn ymgais i hyrwyddo’r llyfrau hyn. Teimlaf fod lle i wella’r cyfathrebu rhwng cynhyrchwyr y llyfrau a’r gynulleidfa, yn enwedig pobol ifanc fy oedran i. Mae TikTok wedi datblygu adran ‘BookTok’, sef llwyfan i rannu argymhellion a dechrau trafodaethau am lyfrau sydd wedi creu argraff. Golyga hyn fod rhwydwaith gweithredol, hygyrch ar gael i drafod pob math o lenyddiaeth. Efallai y dylid dilyn y syniad yma yn y byd llyfrau Cymraeg?

Profiad gwirfoddol, nid gorfodol

Eleni, tu hwnt i furiau addysg, gallaf ond cyfri llond llaw o lyfrau Cymraeg dw i wedi’u darllen o’m gwirfodd yn gyflawn – sy’n gywilyddus, â dweud y gwir! Efallai nad ydi hyn yn adlewyrchiad ar holl bobol ifanc Cymru. Ond, er mwyn mwynhau darllen fel diddordeb, mae’n rhaid iddo fod yn wirfoddol yn hytrach na gorfodol.

Er bod digonedd o amser rhydd gan bobol ifanc yn gyffredinol, mae gan bawb eu diddordebau. O chwarae pêl-droed i’r tim lleol i ddringo mynyddoedd, a bod yn rhan o gymdeithas o fewn y Brifysgol, tybiaf fod cymdeithasu a chadw’n heini yn cael blaenoriaeth. O fewn ein bywydau prysur, gall fod yn her i rai ddod i arfer â’r llonyddwch o eistedd a chydio mewn llyfr. Cyffredin yw’r arferiad o ddarllen llyfr wrth y pwll nofio ar wyliau haf, er enghraifft, ond a yw’r weithgaredd hon wedi’i chyfyngu i wyliau yn unig erbyn hyn?

Ar nodyn gobeithiol, mae’n bwysig cofio bod darllenwyr cyson yn bodoli, ond er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r gweisg yng Nghymru, bydd rhaid datblygu’r ddarpariaeth. Mae gwrando ar lyfrau yn dod yn fwyfwy poblogaidd hefyd, sy’n lleihau gwerthiant llyfrau mewn llaw.

Dw i’n deall fod pwysau ar y gweisg o sawl cyfeiriad, gan gynnwys llai o gyllid, cynydd sylweddol mewn costau cynhyrchu, a llai o werthiant hefyd. Dyma argyfwng nad oes modd ei ddatrys yn hawdd iawn. Mae llyfrau yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru. Mae ein stori ni fel cenedl yn ein llenyddiaeth ni. Bydd bygythiad i ddyfodol y diwydiant creadigol os na chaiff awduron ifainc newydd eu cyfle i gyhoeddi deunyddiau. Ydi Llyfr Mawr y Plant yn gofeb yn hytrach na chyfrwng erbyn hyn? Os am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n bwysig cael strategaeth synhwyrol i wireddu hynny.

Ydych chi am roi llyfrau’n anrhegion i’ch anwyliad y ’Dolig hwn? Cefnogwch awduron Cymru a’r gweisg eleni! Cofiwch: Mae llyfr yn anrheg hawdd iawn i’w lapio!