Mae Andrew RT Davies yn gwadu bod ei farn ar roi enwau uniaith Gymraeg ar etholaethau yn rhan o wrthdaro diwylliannol o fewn y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn rhan o gynlluniau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, bydd gan ddeuddeg o’r 16 etholaeth yng Nghymru enw dwyieithog.
Mewn erthygl yn y Daily Mail, dywed Andrew RT Davies, sy’n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, fod newid enwau rhai etholaethau i fod yn uniaith Gymraeg ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026 “yn eithaf anghyfiawn”.
“Mae Cymru’n ddwyieithog, a bydd y cam hwn yn difreinio siaradwyr uniaith Saesneg,” meddai.
“Tra y gallai fod yn gweddu i rai rhannau o Gymru i fod ag enwau uniaith Gymraeg, uniaith Saesneg yw llefydd fel Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr gan fwyaf, a dylai enwau’r etholaethau adlewyrchu hynny.”
Barn dra gwahanol sydd gan Gymdeithas yr Iaith, serch hynny, wrth iddyn nhw ddadlau mai’r “Gymraeg yw priod iaith Cymru”.
“Rydym yn falch o weld y cynigion y bydd gan fwyafrif helaeth o etholaethau Senedd Cymru enwau uniaith Cymraeg o hyn ymlaen,” meddai Siân Howys, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
‘Enwau diarth yn ei gwneud hi’n anodd cynyddu’r nifer sy’n pleidleisio’
Wrth siarad â golwg360, dywed Andrew RT Davies nad yw’n ystyried bod y sefyllfa’n rhan o “wrthdaro diwylliannol”.
Dywed ei fod yn gweld newid enwau etholaethau i fod yn uniaith Gymraeg yn “niweidiol” i’r niferoedd fydd yn pleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2026.
“Y brif amcan mewn unrhyw etholiad yw cynyddu’r nifer sy’n dewis pleidleisio,” meddai.
“Rydym yn mynd i mewn i le diarth gyda’r etholiad yn 2026, a hynny oherwydd ein bod yn mynd i mewn i’r etholaethau enfawr yma, lle dydy pobol ddim yn gyfarwydd â nhw yn y lle cyntaf.
“Ac un peth dydyn ni [gwleidyddion] ddim wedi medru llwyddo ynddo ydy perswadio pobol i droi allan yn etholiadau’r Senedd.”
Dywed y bydd newid enwau i rai sy’n “ddiarth” i rai pobol yn ei gwneud hi’n “anoddach” i “bobol ymrwymo i’r broses ddemocrataidd”.
Ond does dim tystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu y bydd enwau’r etholaethau yn dylanwadu ar benderfyniad rhywun i bleidleisio neu beidio.
Mae Andrew RT Davies hefyd wedi cael ei feirniadu ar-lein gan ymgyrchwyr o blaid y Gymraeg, sy’n dweud bod ei erthygl yn tanseilio’r iaith.
Ychwanega Andrew RT Davies y daw sefyllfa ryw ddiwrnod pan allai hi “wneud synnwyr” i newid enwau i rai uniaith Gymraeg, ond nad yw’n credu bod “ei wneud e i gyd ar unwaith fel hyn yn ffordd dda o ymrwymo pobol i’r broses ddemocrataidd”.
Cefnogwr yr iaith Gymraeg
Er ei fod yn gwrthwynebu newid enwau’r etholaethau i fod yn uniaith, mae Andrew RT Davies yn mynnu ei fod yn “gefnogwr enfawr” o’r Gymraeg.
“Dw i’n meddwl ei bod yn hollbwysig fod gennym ni Gymru sy’n ddwyieithog, ac yn hyrwyddo’r Gymraeg a faint o bobol sy’n ei siarad,” meddai.
Ychwanega ei fod yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Serch hynny, dywed fod enwau llefydd, yn y Gymraeg a Saesneg, yn allweddol o ran “ymdeimlad” o le mae pobol yn byw.
“Dyna pam dw i’n teimlo ei fod ychydig yn or-sensitif i bobol fy ngalw i’n wrth-Gymraeg am wrthwynebu’r penderfyniad yma,” meddai.
Darren Millar ddim wedi gwrthwynebu enwau uniaith
I’r gwrthwyneb, mae Darren Millar, arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi’r egwyddor o gael enwau uniaith Gymraeg ar etholaethau.
Roedd Darren Millar, olynydd Andrew RT Davies ar ôl iddo ymddiswyddo ar ddechrau’r mis, yn rhan o’r Pwyllgor ar Fil Diwygio’r Senedd.
Un o argymhellion adroddiad y pwyllgor ym mis Ionawr oedd defnyddio enwau uniaith Gymraeg ar gyfer etholaethau, heblaw bod yna reswm “penodol” i beidio gwneud hynny.
Ond dydy Andrew RT Davies ddim yn credu bod y Ceidwadwyr Cymreig yn lledaenu “negeseuon cymysg”.
“Dw i ddim yn hollol ymwybodol o’r hyn ddigwyddodd yn y pwyllgor ond, o safbwynt y blaid, rydyn ni’n amlwg wedi sefyll yn erbyn creu 36 yn rhagor o wleidyddion.”
Ychwanega y dylai’r arian sy’n cael ei wario ar ehangu’r Senedd fynd tuag at gyflogi athrawon, nyrsys a meddygon.
Dim gwahoddiad i fod yn y cabinet cysgodol
Wrth droi ei sylw at ei olynydd, dywed Andrew RT Davies fod gan Darren Millar ei gefnogaeth, “110%”.
“Ar ôl 14 mlynedd ar frig y Blaid Geidwadol yn y Senedd, dw i’n eithaf hapus i chwarae fy rhan ym mha bynnag rôl sy’n sicrhau’r nifer fwyaf o seddi Ceidwadol yn y Senedd ym Mae Caerdydd,” meddai.
Yn rhan o ad-drefnu’r cabinet cysgodol gan Darren Millar, Andrew RT Davies oedd yr unig aelod heb fod yn y cabinet nac â rôl ar bwyllgor.
Yn hytrach, cafodd ei enwebu i fod yn gadeirydd ar y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, gydag enwebiadau’n cael eu cadarnhau trwy bleidlais yn y Senedd.
“Wnes i ddim mynd ar ôl swydd yn y cabinet, a ches i ddim cynnig un chwaith,” meddai.
“Fy ffocws i nawr yw etholiad 2026.”