Chwaeroliaeth, grym y gân a dygymod â galar – dyma rai o’r themâu ar yr albwm Dadeni…
Mae’r cyfeillgarwch rhwng aelodau’r grŵp swynol Pedair – Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James – wedi tyfu dros y ddwy flynedd ers iddyn nhw gyhoeddi eu halbwm gyntaf, mae ’na olau. Tybed sut mae hynny wedi effeithio ar sŵn eu hail albwm Dadeni, sydd nawr yn y siopau?