Dyma ni ar gynffon 2024 a chyfnod o wyliau o’n blaenau.
Cyfle am gip yn ôl ar y flwyddyn a fu a chael awgrymu ambell berlan i’ch cadw yn ddiddan dros y Dolig.
O ran deunydd darllen, rwy’n argymell V + Fo gan Gwenno Gwilym.
Cyfaddefiad: pan welish i deitl y llyfr yma, roedd o’n fy atgoffa o enwau un o albyms y crŵner cringoch Ed Sheeran – y gwaethaf o’r rhain yw +-=÷x…
Ond y wers fan hyn yw ‘peidiwch â barnu llyfr yn ôl ei deitl’.