O feddwl bod 51.1% o boblogaeth ein gwlad yn ferched, yn hanesyddol maen nhw wedi cael eu tangynrychioli yn enbyd mewn swyddi pwysig.

Prin iawn iawn fu’r merched oedd yn Brif Weithredwyr, yn Brif Gwnstabliaid Heddlu ac yn Aelodau Seneddol.

Ond mae’r rhod wedi araf droi ac mae hynny i’w weld yn amlwg iawn erbyn hyn ym myd y cynghorau sir, lle’r oedd bron pob cynghorydd yn tueddu i fod yn ddyn parchus yn ei oed a’i amser.