Mae S4C wedi cyhoeddi cwrs awduron newydd i ddathlu pen-blwydd y gyfres deledu boblogaidd Rownd a Rownd yn 30 oed.
Nod y cwrs, sydd wedi’i gyhoeddi ar y cyd â chwmni cynhyrchu Rondo Media, yw meithrin y genhedlaeth nesaf o awduron teledu Cymraeg.
Mae Rownd a Rownd yn gyfres ddrama boblogaidd sydd wedi’i lleoli yn y gogledd, ac sy’n dilyn hanes trigolion pentref dychmygol Glanrafon.
Dros gyfnod o bedwar mis, wyneb yn wyneb ac ar-lein, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cymryd rhan mewn rhaglen rhan amser ddeinamig sydd wedi cael ei ddylunio gan Rondo Media i ysbrydoli, addysgu a rhoi cyfle i leisiau’r dyfodol fireinio eu crefft.
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- dosbarthiadau meistr dan arweiniad arbenigwyr yn y diwydiant, sy’n cynnig mewnwelediad amhrisiadwy i dechnegau adrodd straeon ac ysgrifennu ar gyfer y sgrin
- mentora un-i-un gyda thiwtoriaid profiadol fydd yn rhoi arweiniad ac adborth ar hyd y ffordd
- dysgu sut mae cynnig a chyflwyno syniadau i sianeli a chwmnïau cynhyrchu
- cyflwyniad i ochr fusnes y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.
Mae’r rhaglen yn agored i unrhyw unigolyn sy’n llawn brwdfrydedd, creadigrwydd, ac sy’n credu bod ganddyn nhw syniadau ffres ar gyfer cyfresi teledu.
‘Cyfle i’r genhedlaeth nesaf’
“Mae Rownd a Rownd yn gyfres sydd wedi bod yn ganolog i feithrin talentau o flaen, a thu ôl i’r camera, ar hyd y blynyddoedd,” meddai Bedwyr Rees o Rondo Media.
“Wrth i ni nodi’r garreg filltir hon, rydyn ni’n awyddus i roi cyfle i’r genhedlaeth nesaf o sgwennwyr ddatblygu eu crefft ymhellach.”
Yn ôl Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C, maen nhw’n angerddol am feithrin talent newydd.
“Mae’r mentrau hyn yn ein galluogi i wneud hynny,” meddai.
“Mae angen buddsoddi yn nhalent newydd y byd teledu er mwyn sicrhau dyfodol disglair drama ar S4C.”
Mae rhagor o wybodaeth am sut mae gwneud cais i’w canfod ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Rondo Media a Rownd a Rownd.
Y dyddiad cau am geisiadau yw 12 o’r gloch ddydd Llun, Chwefror 10.