Mae cynlluniau ar gyfer naw o dai i ateb “angen brys” am dai fforddiadwy yn ardal Pen Llŷn wedi cael eu cymeradwyo.
Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd gymeradwyo cynllun Tŷ Gwynedd ar dir ym Maes Twnti, Morfa Nefyn, yn ystod cyfarfod ddoe (dydd Llun, Ionawr 13).
Daeth hyn wrth i gynghorwyr rybuddio y gallai’r pentref, lle mae 80% o bobol leol wedi cael eu prisio allan o’r farchnad, droi’n “Abersoch arall”.
Mae’r pentref yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer ail gartrefi, sy’n gallu gyrru prisiau eiddo i fyny.
Y gobaith yw y bydd y cartrefi newydd yn cynnig tai i bobol leol, sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu cartref ond nad ydyn nhw’n gymwys am dai cymdeithasol, eu prynu neu eu rhentu’n rhatach.
Clywodd y cyfarfod y byddai’r cartrefi newydd yn addas ar gyfer teuluoedd a chyplau iau ac hŷn.
Byddai’n galluogi cenedlaethau iau i ddechrau teuluoedd ac i gyfrannu at y gymuned leol, meddai Keira Ann Sweenie, y rheolwr cynllunio.
Doedd dim gwrthwynebiadau wedi cael eu derbyn gan y cyhoedd yn ystod ymgynghoriad, ac roedd y cyngor cymuned o blaid.
Ymatebion i’r ymgynghoriad
Nododd yr uned iaith y gallai natur ‘perchnogaeth rannol’ y cynllun alluogi nifer o drigolion lleol i brynu tai am y tro cyntaf, a chadw siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.
Roedd y cynllun wedi bodloni meini prawf polisi, a’r farn oedd na fyddai’n cael effaith andwyol ar gyfleusterau lleol.
Yr argymhelliad oedd y dylid cymeradwyo’r prosiect â rhai amodau.
Cafodd y cartrefi eu disgrifio fel rhan o gynllun ehangach i ddatblygu 90 o eiddo, gyda’r nod o ddarparu “cartrefi fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy ac ynni-effeithlon”.
Byddai safle Tŷ Gwynedd Morfa Nefyn yn cynnwys pedwar o gartrefi â dwy ystafell wely a phum cartref â thair ystafell wely, gyda rhai o’r cartrefi wedi’u cynllunio i’w haddasu’n hawdd i gynnwys rhagor o ystafelloedd i’w gwneud nhw’n gartrefi gydol oes i deuluoedd.
Mae’r datblygiad yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai ehangach y Cyngor i helpu i fynd i’r afael â phrinder tai yn y sir.
Y nod yw darparu dros 1,000 o gartrefi fforddiadwy dros y blynyddoedd nesaf.
‘Anghyfiawn’
“Dw i’n eithriadol o falch o weld bod y prosiect hwn yn symud yn ei flaen, a’n bod ni gam yn nes at weld cartrefi newydd, fforddiadwy o safon ar y safle hwn,” meddai’r Cynghorydd Paul Rowlinson, yr Aelod Cabinet ar Gyngor Gwynedd â chyfrifoldeb dros Dai ac Eiddo, mewn datganiad yn dilyn y cyfarfod.
“Mae dros 80% o drigolion Morfa Nefyn wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai – cyfran sylweddol nad ydyn nhw’n medru prynu cartref yn eu cymuned eu hunain.
“Mae hyn yn anghyfiawn ac yn tynnu sylw at yr angen enfawr am dai fforddiadwy yn yr ardal.
“Un o egwyddorion allweddol cynllun Tŷ Gwynedd yw dylunio cartrefi sy’n blaenoriaethu anghenion trigolion posib.
“Bydd yn bosib eu haddasu nhw ar gyfer teuluoedd sy’n tyfu, drwy gynyddu nifer yr ystafelloedd gwely.
“Bydd y cartrefi’n fforddiadwy i bobol leol ac yn ynni-effeithlon, ac felly’n gyfforddus ac yn rhatach i’w cynhesu – nodweddion sy’n hanfodol ar gyfer cymuned fel Morfa Nefyn.
“Dw i’n edrych ymlaen at weld y safle’n datblygu, a’r effaith bosib fydd hyn yn ei chael ar y gymuned ehangach.
“Dw i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer un o’r tai i wirio’r meini prawf a chofrestru rŵan drwy Tai Teg.”
‘Tai Gwynedd, ar gyfer pobol Morfa Nefyn’
Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth y Cynghorydd Gareth Tudor Jones, yr aelod lleol dros ward Morfa Nefyn a Thudweiliog sy’n aelod o Gyngor Tref Nefyn, “groesawu” y cynllun, gan ddweud y bydden nhw’n “dai Gwynedd, wedi’u hadeiladu ar gyfer pobol Morfa Nefyn”.
“Mae’r diwydiant twristiaeth yn bwysig ar gyfer parhad Morfa Nefyn, a dw i’n derbyn fod rhaid i ni gael llety gwyliau, ond dylai’r ganran fod yn synhwyrol,” meddai.
“Ddylai pob yn ail dŷ ddim bod yn ail gartref neu’n llety gwyliau.
“Mae Morfa yn newid, mae llai a llai o gartrefi ar gyfer pobol leol, a mwy a mwy o ail gartrefi a llety gwyliau.
“Mae perygl y gallai Morfa Nefyn droi’n Abersoch arall, gyda llai a llai o deuluoedd ifainc a llai o blant yn mynd i’r ysgol leol, fel ddigwyddodd yn Abersoch, sef bod yr ysgol wedi cau.
“Mae gen i bryder gwirioneddol y gallai’r un peth ddigwydd ym Morfa Nefyn, ac mae gwir angen tai fforddiadwy yn Llŷn.
“Mae’r safle hwn yn lleoliad hynod gyfleus ar gyfer cartrefi newydd; dros y ffordd mae yna ardal chwarae ardderchog nad yw’n bell o gae pêl-droed, garej, siopau, capel ac eglwys, ac sydd o fewn pellter cerdded ar gyfer Ysgol Morfa Nefyn.”
Ychwanegodd fod Cyngor Tref Nefyn hefyd yn awyddus i weld y prosiect yn mynd yn ei flaen.
“Yn bwysicaf oll, bydd y prosiect hwn yn golygu y gall mwy a mwy o bobol leol aros yn eu cymuned, yn hytrach na gorfod symud i ffwrdd i ddod o hyd i gartref fforddiadwy,” meddai.
“Mae’n gam positif ymlaen er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein cymunedau gwledig Cymraeg.”