Mae arweinydd plaid Mebyon Kernow wedi cyflwyno cynnig sy’n galw am bwerau datganoli i Gernyw.

Bydd cynnig y Cynghorydd Dick Cole yn destun dadl yn ystod cyfarfod llawn y Cyngor yr wythnos nesaf (dydd Mawrth, Ionawr 21).

Nod y cynnig yw dod â chefnogwyr annibyniaeth ynghyd i wrthwynebu unrhyw gytundebau pellach rhwng Cernyw a Dyfnaint sy’n gwneud iddyn nhw weithredu fel un awdurdod cytûn.

Mae arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Grŵp Annibynnol ar y Cyngor eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i’r cynnig.

Y cynnig

Mae’r cynnig yn nodi bod y Cyngor yn cefnogi llythyr gafodd ei anfon at Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ym mis Medi.

Cafodd y llythyr hwnnw ei lofnodi gan arweinydd pob un o’r pleidiau ar y Cyngor a phob un o chwe aelod seneddol Cernyw, sy’n cael eu canmol am barhau i frwydro dros ddatganoli.

Cyfeiria’r llythyr hefyd at Bapur Gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddatganoli yn Lloegr, nad yw’n cynnwys cynigion ar gyfer Cernyw.

Wrth bwysleisio hunaniaeth genedlaethol a statws lleiafrifol Cernyw, mae’r cynnig hefyd yn galw am gyfarfod rhwng Cyngor Cernyw a Phrif Weinidog a gweinidogion perthnasol eraill yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.