Mae angen deall mai “bodau dynol” ydy Mwslimiaid, yn ôl un o arweinwyr ifainc cymuned Foslemaidd Cymru.

Mae Islamoffobia yn bwnc llosg ers peth tro yn y wlad hon, ac yn destun ffrae wleidyddol ymhlith y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae wedi ailgydio unwaith yn rhagor yn ddiweddar, wrth i Elon Musk a’i debyg awgrymu mai problemau annatod sydd gan y gymuned Foslemaidd oedd yn gyfrifol am gamdriniaeth barhaus merched ifainc gan gangiau yn Lloegr.

Wrth siarad â golwg360, mae un o aelodau blaenllaw cymdeithas iLEAD, sy’n cefnogi Mwslimiaid ifainc uchelgeisiol yng Nghymru, wedi bod yn trafod bygythiad Islamoffobia, gan egluro’r hyn sydd angen ei ddeall er mwyn gwrthwynebu agweddau o’r fath.

Mae’r arweinydd ifanc, nad yw am gael ei enwi, hefyd yn llefarydd ar ran Cymdeithas Foslemaidd Prifysgol Caerdydd.

‘Dyletswydd’

“Mae fy nheulu i gyd yn feddygon,” meddai’r arweinydd, gan egluro pam fod cynrychioli anghenion y gymuned Foslemaidd yn ddyhead mor bwysig ganddo.

“Mae fy nhad wedi bod yn rhan o uwchdimoedd rheoli ysbytai, ac mae hynny wedi bod yn ddylanwad anferthol arna i a’m hagwedd i tuag at ddyletswydd a gwasanaeth.

“Fel Mwslimiaid sy’n byw yn y Gorllewin, dw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n arddangos ein hunain a’n bod ni’n ymwneud â’r gymuned ehangach.

“Roeddwn i’n ddigon ffodus i fedru ymuno â Chyngor Ieuenctid Caerdydd ac yna, yn ystod y cyfnod clo, i drafod anghenion pobol ifanc, a’r ddinas ar raddfa ehangach, gydag Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Yna, wedi cyrraedd y Brifysgol, fe lynais i at wleidyddiaeth myfyrwyr ac at wleidyddiaeth yr undeb yn yr un modd.

“Dw i’n ddiolchgar iawn fy mod i wedi llwyddo i ymrwymo ein myfyrwyr i ddiffiniad statudol Islamoffobia yn fy ail flwyddyn.

“Rydyn ni hefyd yn ffodus iawn i fedru hyrwyddo cydweithio rhwng cymunedau Mwslimaidd ac Iddewig y Brifysgol, mewn cyfnod mor lletchwith.”

‘Cynrychioli’

“Mae’n hynod bwysig fod Mwslimiaid yn chwarae rôl mewn gwleidyddiaeth, dw i’n credu,” meddai wedyn.

“Rydyn ni’n un o’r grwpiau lleiafrifol amlycaf yn y wlad.”

Islam ydy ail grefydd fwyaf Cymru.

Yn ôl y cyfrifiad diweddaraf, mae 2.2% o boblogaeth Cymru’n Fwslimiaid – yng Nghaerdydd, mae’r ffigwr yn 10%.

“Mae nifer fawr o Fwslimiaid sydd angen eu cynrychioli, ac sy’n aml heb eu cynrychioli ar hyn o bryd.

“Dydy Mwslimiaid weithiau ddim yn teimlo bod ymdrech gan wleidyddion i ymwneud â’u cymunedau na’u hanghenion.

“Mae hynny’n anochel, braidd, pan fydd dihirod fel Liz Truss yn honni mai Islam, fel crefydd, oedd yn gyfrifol am gamdriniaeth merched ifainc gan y gangiau.

“Mae’r holl beth fel sarhad Andrew RT Davies haf diwethaf.”

Ym mis Awst, fe rannodd cyn-arweinydd Grŵp Ceidwadol y Senedd honiadau cellweirus am gig halal yn ysgolion Bro Morgannwg.

“Mae gwleidyddion yn ein defnyddio ni fel Mwslimiaid er mwyn cynhyrfu ymdeimladau cas ofnadwy – ymdeimladau Islamoffobig.

“Ac mae’r gymuned yn talu sylw, ac yn teimlo’n ddigon oeraidd.”

Diffiniad

Beth yn union ydy Islamoffobia, felly?

“Mae grŵp trawsbleidiol yn San Steffan wedi cynnig y diffiniad canlynol: math o ragfarn sydd â gwreiddiau hiliol sy’n targedu mynegiant Mwslemaidd,” meddai’r arweinydd ifanc wedyn.

“Hynny yw, felly, mae’n rhagfarn tuag at gysyniad neu argraff o’r hyn sy’n gwneud rhywun yn Fwslim.”

Mae rhai o’r Blaid Geidwadol wedi beirniadu’r diffiniad hwn, am nad yw’n caniatáu beirniadaeth grefyddol deilwng.

“Mae elfen o’r diffiniad sy’n trafod beirniadu credoau ac arferion crefyddol Islam.

“Ond mae hefyd elfen sy’n pwysleisio gymaint mae anwybodaeth yn sail i Islamoffobia, ac felly bod rhagfarn Islamoffobig yn aml iawn yn ddibynnol ar gysyniadau hiliol.

“Mae’n ddigon hawdd dychmygu, er enghraifft, dyn sy’n digwydd bod â lliw croen tywyll, sy’n digwydd bod â barf, ond sydd ddim yn Fwslim – sy’n Sikh, er enghraifft – yn cael ei drin yn rhagfarnllyd gan bobol sy’n camgymryd ei grefydd.

“Islamoffobia ydy hynny, er nad yw’r dioddefwr yn Fwslim.”

‘Bygythiad’

“Mae pethau’n gwaethygu ar hyn o bryd, yn bendant,” meddai’r llefarydd wrth edrych tuag at y dyfodol.

“Does dim dwywaith fod sylwadau Elon Musk yn cyfrannu at hynny.

“Roedd gofid mawr yn y gymuned haf diwethaf, yn ystod y terfysgoedd yn Lloegr.

“Yn y brifysgol, pan oedd gofyn i’r Undeb alw am gadoediad yn Gaza, cafodd nifer o’r myfyrwyr Mwslimaidd eu trin yn gas iawn.

“Fe fyddai pobol yn dweud na ddylen ni fod yn mynychu prifysgol yn y Deyrnas Unedig os oedden ni’n credu hyn a hyn – sy’n amlwg yn hiliol; rydyn ni wedi ein geni a’n magu yn y Deyrnas Unedig!

“Dw i’n credu bod teimlo felly – bod rhagfarn yn medru bodoli yn eich cymunedau chi’n uniongyrchol – yn fwy brawychus na chlywed pethau ymfflamychol ar y we neu ar y teledu.

“Pan ydych chi’n clywed rhagfarn yn y gweithle neu yn yr ysgol, mae’n dechrau teimlo fel bygythiad go iawn wedyn.”

‘Anwybodaeth’

Beth ydy gwreiddiau Islamoffobia, felly?

“Anwybodaeth sy’n llethol, yn fwy na dim byd arall,” meddai’r arweinydd.

“Mae’n rhaid i bobol ddeall ein bod ni’n union yr un fath â phawb arall, oni bai am ein ffydd ni.

“Nid dyna sut mae’r cyfryngau yn cynrychioli pethau; nid dyna sut mae gwleidyddion yn cynrychioli pethau.

“Dim ond ryw elyn mawr anhysbys ydyn ni, yn ôl eu darlun nhw.

“Ond rydyn ni’r un fath â phawb arall, yn y bôn.

“Rydyn ni’n mynd i siopa yn Tesco, ac yn gorfod talu’n biliau, ac yn eistedd i wylio’r teledu bob nos.

“Rydyn ni’n fodau dynol.”

‘Plethu’

Ond mae angen dealltwriaeth yn ogystal nad yw Mwslimiaid yn bobol estron yma yng Nghymru, meddai.

“Dw i’n credu, yng Nghymru’n enwedig, ei bod hi hefyd yn bwysig cydnabod fod gwreiddiau dwfn gennym ni yma.

“Mae cymuned Foslemaidd wedi bodoli yng Nghaerdydd ers canrif a hanner.

“Felly, pan fydda i’n sôn fy mod i’n Gymro Mwslimaidd, fydda i fyth yn golygu mai mewnfudwr ydw i sydd newydd ymgartrefu yma – er bod hynny’n beth digon teilwng hefyd, wrth gwrs.

“Mae treftadaeth Foslemaidd gan Gymru bellach – mae hunaniaeth Gymreig Foslemaidd unigryw yn bod.

“Ac mae’r ddwy elfen yn plethu ac yn cymysgu.

“Mae ardaloedd yn Nhre-biwt, er enghraifft, sydd bron yn gwbl Fwslimaidd.

“Ond dydy hynny ddim yn golygu bod diffyg Cymreictod yno, oherwydd gyferbyn â Thre-biwt mae’r Senedd, mae’r geiriau Cymraeg anferthol yna ar waliau Canolfan y Mileniwm.

“Mae’n beth gogoneddus i fedru ei brofi, mewn gwirionedd.”