Blwyddyn arbennig yw hon. 2025 = cyfanswm y ciwbiau.
1³ + 2³ + 3³ + 4³ + 5³ + 6³ + 7³ + 8³ + 9³ = 2025
1 + 8 + 27 + 64 + 125 + 216 + 343 + 512 + 729 = 2025!
Mae mwy nag un ‘³’ yng nghalon yr Efengyl. Dirgelwch mawr tu hwnt i bob deall yw un: Tad a Mab ac Ysbryd Glân. Nid oes angen poeni am ddirgelwch y ‘³’ hwnnw, dim ond i ni ofalu am y ³ arall nad oes modd eu gwahanu: Ffydd, Gobaith, Cariad. Y ‘³’ hyn, 1 ydyn nhw.
Ffydd.
Gobaith.
Cariad.
Y tri’n un llif, un afon ydyw; cyd-raeadr.
Beth yw Ffydd? Sicrwydd yr hyn na welwn.
Beth yw Gobaith? Angor trwm yn y môr mawr.
Beth yw Cariad? Echel y cread.
Beth yw Ffydd? Y gwybod – o dan y drwg fod daioni’n bod.
Beth yw Gobaith? Y gwybod – y daw’r trydydd dydd.
Beth yw Cariad? Y gwybod – o’i rannu y daw ei rinwedd.
Ystyfnigo’n wylaidd yn nannedd pob marwolaeth yw Ffydd.
Cipolwg ar wawr fawr yfory yw Gobaith.
Symlrwydd sylweddol yr Efengyl yw Cariad.
Ffydd yw’r gwaelod dwfn o’r golwg, y dyfnder islaw’r dyfnderau.
Ffydd yw deall nad eiddil pob eiddilwch.
Brwydr ac nid braint yw Ffydd.
Gobaith yw gweld y cerflun yn y marmor.
Gobaith yw hau trugaredd mewn tir o gerrig.
Saif ein Gobaith yn yr Iesu/Brenin nef, goleuni’r byd (J. V. Lewis).
Cariad a saif, fel y saif y sêr.
Cariad yw ffynnon pob Ffydd.
Cariad yw cynhaliwr pob Gobaith.
Ffydd a Gobaith yw cwlwm Cariad.
Y mae Ffydd yn gweld lle mae Gobaith yn ddall, a Chariad yn amgyffred lle mae Ffydd yn ymbalfalu.
Ffydd.
Gobaith.
Cariad.
Un llif, un afon ydyw; cyd-raeadr.
Beth am wneud 2025 yn flwyddyn Ffydd, Gobaith, Cariad?
Sut?
Parchu 3 arall: Duw, fi a ti, neu Myfi, tydi, Efe (Waldo Williams).