Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Athro Geraint H. Jenkins, yr hanesydd blaenllaw, sydd wedi marw’n 78 oed.

Yn awdur toreithiog ar hanes Cymru, cyhoeddodd ddegau o lyfrau a thros gant o erthyglau, gan gynnwys ar hanes y Gymraeg, Iolo Morganwg, anghydffurfiaeth a Chlwb Pêl-droed Abertawe.

Fe olygodd y gyfres Cof Cenedl: Ysgrifau ar Hanes Cymru.

Bywyd a gyrfa

Yn frodor o Benparcau yn Aberystwyth, enillodd ei Ddoethuriaeth o Brifysgol Abertawe lle cafodd arweiniad gan yr Athro Glanmor Williams, un arall o’r academyddion mwyaf blaenllaw ar hanes Cymru.

Daeth yn Athro a Phennaeth Adran Hanes Prifysgol Aberystwyth am fwy na chwarter canrif, a chafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn 1993.

Bu’n gadeirydd a chyfarwyddwr ymchwil Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru rhwng 1993 a 2007, ac fe ddaeth yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 2002.

Daeth yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Cymru yn 2008.

‘Cyfraniad aruthrol’

“Gyda thristwch mawr nodwn y bu farw’r Athro Geraint H. Jenkins, cyn Gyfarwyddwr y Ganolfan,” meddai’r Ganolfan Uwchefrydiau ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Yn hanesydd praff ac un o ysgolheigion blaenaf ei genhedlaeth, gwnaeth gyfraniad aruthrol i ymchwil a dysg yng Nghymru, gan lywio’r Ganolfan rhwng 1993 a 2008.

“Hefyd, dan ei oruchwyliaeth ofalus, ffynnodd nifer o brosiectau arwyddocaol eraill, yn cynnwys Diwylliant Gweledol Cymru, Beirdd yr Uchelwyr, Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Ddiwylliannol a Geiriadur Prifysgol Cymru.

“Roedd yn awdur toreithiog ac yn gymwynaswr mawr i’w genedl ac ysbrydolodd genedlaethau o ymchwilwyr.

“Diolchwn am ei waith a’i gwmni a danfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei weddw Ann ac at ei ferched a’u teuluoedd.”

Yn ôl Gwerfyl Pierce Jones, cyn-Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, roedd yr Athro Geraint H. Jenkins yn “ffigwr cenedlaethol o bwys, yn ysgolhaig o’r radd flaenaf, yn awdur toreithiog, yn ddarlithydd campus gyda’r gallu i gyfareddu cynulleidfa”.

“Ond roedd hefyd yn genedlaetholwr tanbaid, yn ymgyrchydd diflino dros yr iaith Gymraeg a’r Pethe a dros anghyfiawnderau o bob math, yn lleol, yn genedlaethol a thu hwnt.

“Roedd yn barod i dorchi llewys a gweithio’n ymarferol dros bopeth oedd yn cyfri iddo, nid lleiaf ei filltir sgwâr ym Mlaenplwyf.

“Mae gennym i gyd ddyled enfawr iddo.

“Teimlo i’r byw dros ei deulu agosaf.”

Mae’n gadael gwraig, Ann Ffrancon, eu merched Gwenno, Angharad a Rhiannon, a saith o wyrion.