Mae ymgyrchwyr dros ysgol uwchradd Gymraeg newydd yng Nghaerdydd am ddathlu’r Hen Galan heddiw (dydd Iau, Ionawr 9) drwy brotestio y tu allan i Neuadd y Sir – yng nghwmni’r Fari Lwyd.
Mae’r ymgyrchwyr yn bwriadu canu calennig y tu allan i’r adeilad ym Mae Caerdydd.
Diben y brotest ydy parhau i bwyso ar Gyngor Caerdydd i sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn ne’r ddinas, a galw am ‘gynllun newydd’ ar gyfer y flwyddyn newydd.
Mae’r ymgyrchwyr yn dadlau nad oes gan yr ardal hon, sy’n fwy amlddiwylliannol ac yn fwy difreintiedig na rhannau eraill o’r ddinas, fynediad cyfiawn at addysg Gymraeg.
Mae’r tair ysgol uwchradd Gymraeg sydd gan y brifddinas eisoes – ysgolion Glantaf, Plasmawr, a Bro Edern – i gyd tua’r gogledd, ymhell o gymunedau Tre-biwt, Trelluest (Grangetown) a’r Sblot.
Awgrym yr ymgyrchwyr ydy nad yw’r Cyngor yn cwblhau eu dyletswydd i sicrhau hawl pob plentyn yng Nghymru i addysg Gymraeg mewn ysgol yn eu cymuned leol.
‘Llwybr dilyniant teg’
Gwnaed cynnydd gan y protestwyr y llynedd pan addawodd y Cyngor y byddai ysgol uwchradd Gymraeg newydd yn cael ei chymeradwyo ‘yn yr hirdymor’.
Bydd y protestwyr heddiw’n gobeithio ennyn ymrwymiadau pellach gan y Cyngor i gadw at gynlluniau pwrpasol i godi’r bedwaredd ysgol honno.
Dywed Carl Morris, un o aelodau mwyaf blaenllaw’r ymgyrch, fod angen sicrhau y bydd y Cyngor yn cadw at eu haddewidion.
“Tra ein bod yn croesawu sylwadau adeiladol y Cyngor yn fawr, maen nhw’n amwys iawn – heb gynllun clir, ni fydd hyn yn digwydd,” meddai.
“Y cam rhesymegol nesaf, felly, yw i’r Cyngor gyhoeddi eu cynllun i sefydlu’r ysgol yn ne’r ddinas a hynny ar fyrder, ac rydyn ni yma ar ddechrau’r flwyddyn er mwyn pwysleisio nad oes eiliad i’w gwastraffu.
“Er mwyn sbarduno’r drafodaeth a chynorthwyo’r Cyngor gyda’u gwaith, byddwn ni fel ymgyrchwyr yn cynnal trafodaeth agored am gynnwys y cynllun i sefydlu pedwaredd ysgol dros y cyfnod nesaf.
“Rhaid gweld llwybr dilyniant teg i addysg Gymraeg o’r meithrin i’r uwchradd i bob plentyn yn y ddinas, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld cynlluniau arfaethedig y Cyngor.”