Mae adroddiad newydd gan Bwyllgor Diwylliant a Chwaraeon y Senedd yn collfarnu diffyg gwariant ar chwaraeon a’r celfyddydau yng Nghymru.

Mae’r adroddiad sy’n cael ei lansio heddiw (dydd Iau, Ionawr 9) yn dangos bod Cymru yn y trydydd safle o’r gwaelod ymhlith gwledydd Ewropeaidd o ran gwariant y pen ar wasanaethau hamdden a chwaraeon, ac yn ail o’r gwaelod o ran gwasanaethau diwylliannol.

Daw’r ffigyrau hyn wedi degawd o doriadau gan Lywodraeth Cymru, medd y pwyllgor.

‘Effaith ddofn’

Mae’r adroddiad yn manylu ar effaith ddifrifol degawd o doriadau cyllid ar y sectorau diwylliant a chwaraeon yng Nghymru.

Mae’r pwyllgor wedi clywed tystiolaeth gan lawer o sefydliadau allweddol ledled Cymru, sydd wedi codi pryderon difrifol.

Maen nhw’n galw am weithredu a mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac yn tynnu sylw at angen dybryd am strategaeth.

Dywed Delyth Jewell, cadeirydd y pwyllgor, fod “diwylliant a chwaraeon wedi cael eu trin fel pethau ‘neis i’w cael’” yn unig am yn rhy hir, ac o ganlyniad eu bod nhw “wedi wynebu gostyngiadau di-baid mewn cyllid sydd wedi gadael y sectorau hyn yn fregus a heb ddigon o adnoddau”.

“Mae’r toriadau diweddar yng nghyllideb Llywodraeth Cymru 2024-25, sy’n cael eu gwaethygu gan chwyddiant a chostau cynyddol, wedi cael effaith ddofn,” meddai.

“Rhaid inni fynd i’r afael â hyn er mwyn sicrhau bod gwariant y pen ar ddiwylliant a chwaraeon yn dod yn gymaradwy â chenhedloedd eraill.”

‘Gwneud bywyd yn werth ei fyw’

Mae’r adroddiad yn tanlinellu pwysigrwydd diwylliant a chwaraeon o ran cyfoethogi bywydau, cefnogi cymunedau, a gwella llesiant corfforol a meddyliol.

Mae’n galw am weithredu ar unwaith i atal dirywiad pellach yn y sectorau hanfodol hyn.

Ychwanega Delyth Jewell fod “diwylliant a chwaraeon yn edafedd hanfodol yn y brethyn sy’n gwneud bywyd yn werth ei fyw: maen nhw’n cyfoethogi’r profiad dynol, ac yn fwy na dim ond moethusion i’w mwynhau mewn cyfnodau o ddigonedd”.

Yr un neges oedd gan Miranda Ballin o elusen Plant y Cymoedd, sy’n darparu cefnogaeth, cyngor a chyfleoedd i bobol o bob oed yn Rhondda Cynon Taf:

“I lawer o’n pobol ifanc ac oedolion hŷn, mae’r celfyddydau yn hanfodol yn eu bywyd,” meddai hi.

“Mae gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y celfyddydau yn effeithio ar ein hartistiaid lleol, ein cymuned lawrydd, ac yn bennaf oll y bobol sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau – mae bod yn rhan o’r celfyddydau yn rhoi llais creadigol i bobol ar adeg pan fo gwir angen amdano; ni allwn fforddio colli hynny nawr.”

“Heb newidiadau sylweddol, mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl o ran llwyddiant ym meysydd diwylliant a chwaraeon, gan beryglu ein cymeriad cenedlaethol a llesiant ein cymunedau,” meddai Delyth Jewell.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb i argymhellion ac adroddiad y pwyllgor.

‘Esgeulustod yn achosi perygl sylweddol’

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae esgeuluso chwaraeon a’r diwylliant wedi achosi “perygl sylweddol” i’r ddau faes yng Nghymru.

Yn ôl Gareth Davies, llefarydd y blaid ar ddiwylliant a chwaraeon, maen nhw’n “sectorau sy’n hanfodol i’n cymunedau a’n hunaniaeth genedlaethol”.

“Mae traddodiadau diwylliannol a chwaraeon Cymru’n rhan o bwy ydyn ni,” meddai.

“Ond eto, mae toriadau cyllid Llafur wedi creu argyfwng sy’n peryglu ein dyfodol diwylliannol a chwaraeon.

“Yn wahanol i Lafur, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod fod diwylliant a chwaraeon nid yn unig yn rhan o’n treftadaeth, ond hefyd yn allweddol i’n dyfodol.

“Mae angen i ni weld ymrwymiad cadarn gan Lafur er mwyn sicrhau nad yw Cymru’n cwympo ymhellach tu ôl i genhedloedd eraill o ran cyflawniadau diwylliannol a chwaraeon.”