Mae ymgyrch ‘Cymru a Japan 2025’ yn cael ei lansio heddiw (dydd Iau, Ionawr 9).
Dyma’r bumed ymgyrch o’i math i ddathlu’r cysylltiadau rhwng Cymru a gwledydd eraill, a’i nod yw ysgogi partneriaethau economaidd a diwylliannol newydd, gan ddod â manteision hirdymor.
Mae Cymru a Japan 2025 yn dilyn Cymru yn India 2024, a blynyddoedd eraill blaenorol fu’n canolbwyntio ar Ffrainc, Canada a’r Almaen.
Yn ogystal â’r lansiad swyddogol yng Nghaerdydd gan y Prif Weinidog Eluned Morgan a Hiroshi Suzuki, Llysgennad Japan, mae digwyddiad lansio hefyd yn cael ei gynnal yn Tokyo heddiw.
Mae gan Gymru gysylltiadau economaidd hirsefydlog â Japan, yn bennaf o ganlyniad i’r ffaith fod cwmnïau o Japan yn buddsoddi yng Nghymru ers y 1970au.
Bydd cronfa gelfyddydau gwerth £150,000, sy’n cael ei reoli gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Council Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, hefyd yn cael ei lansio er mwyn cynnal gweithgareddau yn Japan eleni.
Nod y gronfa yw datblygu cydweithrediadau artistig newydd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, tra’n cryfhau partneriaethau presennol.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cadarnhau heddiw y bydd Cymru’n cael ei chynrychioli yn arddangosfa’r World Expo 2025 yn Osaka rhwng mis Ebrill a mis Hydref eleni.
Y bwriad yw cynnal digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar Gymru, gyda chyfraniadau gan berfformwyr o Gymru, a bydd cyfleoedd economaidd yng Nghymru yn cael eu hyrwyddo hefyd.
I ❤️ Welsh cake ! pic.twitter.com/8GWMXhrWDh
— Hiroshi Suzuki (@AmbJapanUK) January 9, 2025
‘Cysylltiadau dwfn’
“Mae cysylltiadau dwfn rhwng Cymru a Japan sy’n ymestyn yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan chwaraeodd arloesedd Cymru ran bwysig yn y broses o lunio rhwydwaith trafnidiaeth Japan,” meddai Eluned Morgan.
“Heddiw, mae’r bartneriaeth honno’n ffynnu mewn ffyrdd newydd ac ystyrlon.
“Bydd 2025 yn flwyddyn i ddechrau sgyrsiau newydd, datblygu cysylltiadau ac agor pennod newydd ar gyfer twf ar y cyd mewn meysydd allweddol.
“Rwy’n edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd o’n blaenau eleni i ddathlu a chryfhau’r cysylltiadau chwaraeon, economaidd, addysgol, a diwylliannol rhwng Cymru a Japan.”
First Minister Eluned Morgan sings the Japanese national anthem as she welcomes the country’s ambassador to the UK, to Cardiff.
It comes after Hiroshi Suzuki was filmed singing Hen Wlad Fy Nhadau earlier this week.pic.twitter.com/Uw5BGcc20I
— LBC News Wales (@LBCNewsWales) January 9, 2025