Fe fu’n “anodd” dadansoddi canllawiau’r Gyllideb Ddrafft ar wariant ar draws y meysydd polisi mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanyn nhw, yn ôl yr Athro Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Fe fu’n siarad yn ystod cyfarfod Pwyllgor Cyllid y Senedd ddoe (dydd Mercher, Ionawr 8).

Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi cymharu unrhyw Gyllideb Ddrafft gyda’r Gyllideb derfynol sy’n cael ei defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

Felly, ar gyfer y Gyllideb Ddrafft hon, mae Llywodraeth Cymru’n cymharu gwariant arfaethedig 2025-26 gyda’r Gyllideb derfynol ar gyfer 2024/25.

“Fel arfer, dydi hyn ddim yn becso llawer yn ymarferol,” meddai Guto Ifan wrth y pwyllgor.

“Ond o ystyried y flwyddyn ariannol hon, mae’n mynd i fod yn eithaf eithriadol.”

Y rheswm am hyn yw bod gwariant refeniw, sef gwariant ar bethau mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfrifol amdanyn nhw o ddydd i ddydd, wedi cynyddu yn “sylweddol” ar gyfer 2024-25.

Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar sail faint o arian sy’n cael ei wario yn Lloegr o dan system Fformiwla Barnett.

O ystyried hyn, ac arian ychwanegol sy’n dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig tu hwnt i’r system ariannu gyffredinol, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn amcangyfrif bod £1.2bn yn ychwanegol ar gyfer gwariant refeniw i Lywodraeth Cymru o gymharu â’r flwyddyn ariannol bresennol.

£652m ar gyflogau a phensiynau

Yn ôl Guto Ifan, bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnig cynnydd rhwng 5.5% a 6% ar gyfer gweithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac mewn addysg yn costio oddeutu £652m.

Mae hyn yn gadael oddeutu £1bn dros ben mewn ariannu refeniw i Lywodraeth Cymru ei wario ar flaenoriaethau eraill.

Dywed Guto Ifan fod y cynnydd go iawn ar ôl ystyried chwyddiant yn “eithaf dibwys”.

“Mi fyddai wedi bod yn neis neu yn ddelfrydol i gael rhyw fath o ymwybyddiaeth o hynny yn naratif y gyllideb,” meddai.

Hefyd yn cyfrannu at sesiwn y pwyllgor roedd David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt y Sefydliad Astudiaethau Cyllid.

O ran pa mor eglur roedd Llywodraeth Cymru wedi bod wrth gyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft, dywed David Phillips y bydden nhw “wedi gallu mynd ymhellach”.

“I geisio gweithio allan pa newidiadau oedd wedi cael eu cynnwys [o ran cyflogau a phensiynau], roedd rhaid i chi edrych ar ryw dabl o nodiadau ar atodiad,” meddai.

“Felly, dw i ddim yn credu ei fod wedi bod mor dryloyw â phosib.”

Wrth drafod gwariant cyfalaf, sef gwariant mwy hirdymor ar seilwaith ac ati, dywed David Phillips ei bod yn anodd amcangyfrif hynny, gan nad oedden nhw “wedi manylu yn unigol o ran portffolio a’r math o fuddsoddiad”.

Ychwanega ei fod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru am ddefnyddio un rheol cyfrifeg ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, ac un arall ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2025-26.

“Dw i’n credu y byddai’r darlun lawer mwy eglur pe baen nhw wedi cyflwyno’r ffigurau o dan yr un rheolau cyfrifeg.”

Cynnydd o 9.9% i 15% yn y dreth gyngor yn bosib

Hefyd yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor roedd Mark Pritchard, arweinydd Cyngor Wrecsam.

Dywedodd fod ei awdurdod yn trafod cynnydd o 9.9%-15% yn y dreth gyngor, gan rybuddio hefyd nad yw’r bygythiad y gallai cynghorau yng Nghymru fynd yn fethdal wedi diflannu’n llwyr.

Cafodd y 22 awdurdod lleol hwb ariannol o £253m gan weinidogion Cymru yn y Gyllideb Ddrafft fis diwethaf, ond dywedodd cynghorwyr wrth y pwyllgor nad oedd yn ddigon.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eisoes wedi dweud bod bwlch ariannu o £560m.

“Mae’r setliad yn llawer iawn gwell na’r hyn wnaethon ni ei ragweld pan oeddan ni’n dechrau gweithio ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yma, ond dydi o ddim yn ddigon i sicrhau’r gwasanaethau rydan ni angen eu cyflawni i drigolion yr ynys, ac mae hynna’n wir i bob sir ledled Cymru,” meddai Gary Pritchard, arweinydd Cyngor Ynys Môn wrth BBC Radio Cymru.

“Mi wnaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru arolwg o’r holl awdurdodau lleol, a’r farn oedd bod angen setliad o 9% er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu aros yn llonydd – dal i ddarparu’r un gwasanaethau flwyddyn nesaf ag ydan ni’n eu darparu flwyddyn yma.

“Mae’r setliad ar gyfartaledd yn 4.3%, felly hanner hynny.

“Mae rhai siroedd, a Môn yn eu plith, wedi derbyn llai na hanner, felly y neges gyffredinol, gen i yn sicr, ydi nad ydi’r setliad yn ddigonol, er ein bod ni’n croesawu’r arian ychwanegol.”


Dadanasoddiad Rhys Owen, Gohebydd Gwleidyddol golwg360:

“Yn yr wythnos pan fo craffu ar gynlluniau ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn olaf cyn yr etholiad wir yn dechrau, y peth diwethaf fydden nhw ei eisiau yw cyhuddiad o beidio â bod yn agored.

“Does dim amheuaeth fod mwy o arian yn dod i Gymru o ganlyniad i Gyllideb y Canghellor Rachel Reeves fis Hydref. Ond wrth i’r amser fynd ei flaen, mae’n amlwg fod yna gwestiynau mawr o hyd am rai o wasanaethau allweddol Cymru, yn enwedig awdurdodau lleol.

“Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddyn nhw geisio cefnogaeth o leiaf un Aelod arall o’r Senedd i’r Gyllideb – Jane Dodds yw’r un mwyaf tebygol – ond mae pwyllgorau fel yr un yma’n dangos bod yna lawer o waith perswadio i’w wneud o hyd.”