Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi pasio cynnig i gefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru.

Mae galwadau cynyddol gan awdurdodau lleol Cymru i weld datganoli Ystad y Goron, ond hefyd ymhlith arbennigwyr ym meysydd economi, ynni, a’r amgylchedd.

Y Cynghorydd Nathan Goldup-John o’r Blaid Werdd oedd wedi cyflwyno’r cynnig, ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Suzanne Paddison o’r Blaid Lafur gan nad oedd y Cynghorydd Laura Williams yn gallu bod yn y cyfarfod.

Cafodd ei basio’n unfrydol.

Y cynnig

Yn ôl y cynnig, ddylai’r elw sy’n deillio o adnoddau naturiol Cymru ddim bod yn wahanol i’r elw sy’n cael ei wneud yn yr Alban, sy’n cael ei fuddsoddi yn anghenion y wlad honno yn hytrach na mynd i goffrau’r Trysorlys.

Roedd y refeniw gafodd ei gynhyrchu drwy Ystad y Goron yng Nghymru’n werth dros £600m ar ddiwedd 2022, ac mae wedi tyfu ymhellach ers hynny.

Yn ôl y cynnig, gellid defnyddio’r arian sy’n mynd i’r Trysorlys i greu swyddi gwyrdd ac i gynnal ymchwil a datblygu atebion ym mhob sector, yn ogystal â cheisio gostwng costau ynni domestig.

Mae cyfle yn y sir hefyd wrth ddatblygu Porthladd Rhydd Celtaidd, meddai’r cynnig.

Mae’r cynnig yn nodi y dylai’r Cyngor Sir ei gefnogi fel bod asedau Cymru yn nwylo Llywodraeth Cymru, a bod yr arian sy’n cael ei gynhyrchu’n mynd tuag at “gefnogi anghenion cymdeithasol pobol Cymru”.

Yn sgil pasio’r cynnig, bydd arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol priodol a’r Prif Weinidog Eluned Morgan “yn amlinellu ein cefnogaeth i berswadio San Steffan ar yr amodau yn y cynnig hwn i ddatganoli Ystad y Goron ar fyrder”.

‘Egwyddor bwysig’

Mae yna “egwyddor bwysig” ynghlwm wrth y cynnig, yn ôl y Cynghorydd Alun Llewelyn, dirprwy arweinydd y Cyngor, ond hefyd “resymau economaidd a chyllidol cryf dros newid y drefn”.

“Ar hyn o bryd, mae Ystadau’r Goron yn berchen ardaloedd helaeth o arfordir, afonydd a thirwedd Cymru,” meddai mewn sylwadau yn ystod y ddadl sydd wedi’u rhoi i golwg360.

“Mae gwerth yr ystadau yng Nghymru wedi cynyddu o £21m yn 2007 i dros £850m yn 2024.

“Mae hyn i raddau helaeth oherwydd pwysigrwydd cynyddol yr asedau i ddarparu ynni adnewyddol arfordirol, ac wrth gwrs mae gennym ddiddordeb arbennig yn y maes yma yng Nghastell-nedd Port Talbot oherwydd y Porthladd Rhydd a photensial Flow.

“Ar draws y Deyrnas Unedig, cododd elw’r ystadau o £345m yn 2020 i £1.1bn y llynedd i’r Trysorlys.

“Ond yn wahanol i’r Alban, dyw Cymru ddim yn derbyn cyfran uniongyrchol o’r elw yma.

“Cafodd Llywodraeth yr Alban dros £100m y llynedd, ac amcangyfrifir y byddai Cymru yn derbyn dros £50m petai’r ystadau hefyd yn cael eu datganoli yma.

“Gyda llaw, mae hefyd yn eironig bod cynghorau Cymru, rhyngddyn nhw, yn talu £300,000 y flwyddyn i Ystadau’r Goron am ddefnyddio ardaloedd o’u tir.

“Ers cenedlaethau, cymerwyd elw o’n hadnoddau naturiol allan o Gymru, fel glo o’n cymoedd.

“Allwn ni ddim gweld y math yma o berthynas extractive eto gydag ynni adnewyddol.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi’r alwad i ddatganoli’r ystadau [fel dywedodd y Cynghorydd Laura Wlliams], ond mae’n hanfodol i Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig wrando.

“Mae peryg y bydd y mesur i ddiwygio Ystadau’r Goron sydd o flaen senedd San Steffan ar hyn o bryd yn colli’r cyfle yn llwyr wrth beidio cynnwys datganoli’r ystadau i Gymru.

“Mae angen i ni yng Nghymru gael rheolaeth ar yr asedau enfawr hyn, er mwyn budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein pobol.

“Gobeithiaf y bydd pasio’r cynnig trawsbleisiol hwn heddiw yn rhoi pwysau ychwanegol ar lywodraethau ar bob lefel i gytuno i ddatganoli.”