Mae Jess Phillips, Is-Ysgrifennydd Gwladol â chyfrifoldeb dros Warchod a Thrais yn erbyn Menywod a Merched yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, “wedi ymrwymo’n ddiflino” i warchod menywod sydd wedi’u treisio a’u harteithio, yn ôl Liz Saville Roberts.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod yr aelod seneddol Llafur yn poeni am ei diogelwch yn sgil sylwadau Elon Musk amdani.

Mae adroddiadau ei bod hi wedi cyflwyno camau diogelwch ychwanegol ar ôl i Musk, sydd wedi closio at ddarpar Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump, ladd arni ar y cyfryngau cymdeithasol yn sgil penderfyniad Llywodraeth San Steffan i wrthod cynnal ymchwiliad cenedlaethol i sgandal gangiau’n ymbaratoi merched at ddibenion rhywiol.

Yn sgil yr helynt, mae adroddiadau bod Jess Phillips wedi’i chynghori i beidio â mynd allan ar ei phen ei hun.

Dywed fod sylwadau Elon Musk, sy’n dweud y dylid carcharu Jess Phillips am esgusodi treisio, yn “warthus” ac wedi troi ei byd “â’i ben i waered” mewn cyfnod byr.

Mae un dyn wedi’i gyhuddo o anfon gohebiaeth faleisus at Jess Phillips, ddyddiau’n unig ar ôl sylwadau Elon Musk.

Un arall sydd wedi beirniadu ei sylwadau yw Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.

“Rwy’n siŵr ein bod ni, ar draws y Siambr, yn parchu ac yn deall ei bod hi’n hollol annerbyniol, ac mae’n rhaid i ni gondemnio’n llwyr y ffyrdd mae yna rai pobol ddylanwadol… sydd fel pe bai ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn lledaenu camwybodaeth,” meddai.

Mae hi wedi disgrifio Jess Phillips fel gwleidydd o fri sydd wedi treulio’i bywyd yn sefyll i fyny dros hawliau menywod ac yn mynd i’r afael â thrais yn y cartref.

‘Arf’

“Mae goroeswyr treisio ac arteithio’n cael eu defnyddio fel arf gan ffigurau pwerus fel Elon Musk at fanteision gwleidyddol,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dro Ddwyfor Meirionnydd.

“Ar ôl gweithio gyda Jess Phillips ers blynyddoedd ar hawliau dioddefwyr, dw i’n gwybod fod ei hymrwymiad diflino i warchod goroeswyr yn ddiffuant.

“Parch iddi.”

Un o weinidogion Cymru’n cyhuddo Elon Musk o gamwybodaeth “hollol annerbyniol”

Chris Haines, Gohebydd Senedd ICNN

Mae Jane Hutt wedi beirniadu ei sylwadau am Jess Phillips, un o weinidogion Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig