Mae un o weinidogion Cymru wedi cyhuddo Elon Musk o ledaenu camwybodaeth “hollol annerbyniol”, gan arwain at sarhad “gwarthus” yn erbyn un o’i chydweithwyr yn y Blaid Lafur.

Mae Jane Hutt wedi condemnio dyn cyfoethoca’r byd am ymosod ar Jess Phillips, Gweinidog Diogelu y Deyrnas Unedig, ynghylch ei hymateb i gangiau sy’n camdrin plant yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r gŵr busnes technolegol sy’n werth biliynau o bunnoedd wedi galw am garcharu Jess Phillips, sy’n “ymddiheurwr dros hil-laddiad treisio”, ar ôl iddi wrthod galwadau am ymchwiliad cyhoeddus i ecsbloetio plant yn rhywiol yn Oldham.

Wrth ymateb i gwestiwn gan Joyce Watson, cydweithiwr arall yn y Blaid Lafur, dywedodd Jane Hutt wrth y Senedd fod Jess Phillips wedi wynebu sarhad ofnadwy yn sgil y digwyddiad.

“Rwy’n siŵr ein bod ni, ar draws y Siambr, yn parchu ac yn deall ei bod hi’n hollol annerbyniol, ac mae’n rhaid i ni gondemnio’n llwyr y ffyrdd mae yna rai pobol ddylanwadol… sydd fel pe bai ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn lledaenu camwybodaeth,” meddai.

Disgrifiodd Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru Jess Phillips fel gwleidydd o fri sydd wedi treulio’i bywyd yn sefyll i fyny dros hawliau menywod ac yn mynd i’r afael â thrais yn y cartref.

‘Ymyrraeth wyllt’

Rhybuddiodd Jane Hutt fod y “camwybodaeth, celwyddau a’r baeddu anghredadwy” yn aml iawn yn targedu menywod mewn gwleidyddiaeth, ac nid dim ond dros y dyddiau diwethaf.

Yn ystod y datganiad busnes yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 7), galwodd Joyce Watson am ymateb gan Lywodraeth Cymru i “ymyrraeth wyllt” Elon Musk mewn gwleidyddiaeth yn y Deyrnas Unedig.

“O ganlyniad i hynny, mae dyn arall wedi’i gyhuddo o anfon gohebiaeth faleisus at Jess Phillips, ac fe fu bygythiadau difrifol i’w lles,” meddai.

“Fel cadeirydd y cawcws menywod hwn yn y Senedd, dw i’n poeni’n fawr y gallai’r gwenwyn yma droi menywod da – pob menyw – i ffwrdd o fentro i fywyd cyhoeddus.

“Mae yna ddigon o dystiolaeth ei fod eisoes yn achosi i fenywod adael bywyd cyhoeddus.

“Ar adeg pan ydyn ni’n ceisio ehangu a chyfoethogi ein sefydlu yma yn yr etholiad nesaf, er mwyn annog amrywiaeth o fewn y siambr ddadlau hon, rhaid i ni godi pryderon am ymyrraeth sy’n dod yma i’r Deyrnas Unedig.

“A ni sy’n cynnal yr etholiadau nesaf.”