Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r gwleidydd Ceidwadol Peter Rogers, sydd wedi marw’n 85 oed.
Roedd yn Aelod o’r Cynulliad rhwng 1999 a 2003, gan gynrychioli rhanbarth y gogledd, ac mae wedi’i ddisgrifio fel “pencampwr” ac “eiriolwr dros gefn gwlad”.
Bu’n llefarydd ar yr amgylchedd yng nghabinet cysgodol Rod Richards, ac yn llefarydd amaeth a materion gwledig pan oedd Nick Bourne wrth y llyw.
Roedd yn cefnogi dileu’r gwaharddiad ar gig eidion ar yr asgwrn, yn wrthwynebydd chwyrn i’r gwaharddiad ar hela llwynogod, ac yn ymgyrchydd o blaid gwahardd cig eidion Ffrengig.
Fe wnaeth e feirniadu ymateb Llywodraeth Cymru i glwy’r traed a’r genau yn 2001, ac yntau wedi cael ei effeithio’n sylweddol fel ffermwr, gyda nifer o’i wartheg wedi’u difa.
Ar ôl gadael y Cynulliad yn 2003 a’r Ceidwadwyr yn 2005, daeth yn ymgeisydd annibynnol gan orffen yn drydydd ac ennill cyfran uwch o’r bleidlais na’r Ceidwadwyr.
Roedd yn gynghorydd annibynnol ar wardiau Rhosyr a Bro Aberffraw ym Môn rhwng 2004 a 2022 – pan gollodd ei sedd i Blaid Cymru – yn ynad heddwch, ac yn ffermwr.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe fu sawl helynt, gan gynnwys cael ei wahardd am gyfnod am wrthod mynychu cyfarfodydd ar ôl iddo dderbyn gohebiaeth uniaith Gymraeg, a thro arall am iddo fe feirniadu’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
Roedd yn ymgeisydd annibynnol yn etholiadau’r Cynulliad yn 2007 a’r etholiad cyffredinol yn 2010.
Mae’n gadael gwraig, Margaret, dau fab, Richard a Simon, a phump o wyrion.
‘Eiriolwr a phencampwr’
“Dw i’n drist iawn o glywed am farwolaeth Peter Rogers,” meddai Darren Millar, arweinydd y Grŵp Ceidwadol yn y Senedd.
“Roedd Peter yn eiriolwr angerddol dros Gymru wledig, ac yn bencampwr cefn gwlad cadarn i’n cymunedau ffermio.
“Bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith y rhai oedd yn ei adnabod.
“Mae fy nghydymdeimlad dwysaf efo’i ffrindiau a’i deulu ar yr adeg anodd hon.”